Datganiadau i'r Wasg
Hwyl mis Chwefror ar y Glannau
Dyddiad:
2010-02-10Cyn gynted ag y daw gwyliau’r Nadolig i ben, mae’r plant adref eto ar gyfer hanner tymor mis Chwefror! Fodd bynnag, mae digon i’w diddanu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wrth i ni baratoi am wythnos hwyliog o weithgareddau a digwyddiadau.
Byddwch yn barod i fentro i fyd anhygoel olew rhwng Dydd Sul 14 a Dydd Gwener 19 Chwefror gyda’r Olewyl (11am a 2pm) - gweithdy rhad ac am ddim i’r teulu, lle cewch ddarganfod bob math o ffeithiau diddorol am olew.
Bydd cyfres o weithgareddau rhyngweithiol yn dangos y broses o’i gynhyrchu, yr effaith ar yr amgylchedd, a chynaladwyedd ynni yn y dyfodol. Bydd un gweithgaredd yn defnyddio deunyddiau fel diodydd carbonedig i ddangos sut mae olew yn cael ei gasglu a’i drosglwyddo ar gyfer ei brosesu.
“Rydym yn falch iawn o gynnig y gweithgaredd hwn eto yn yr Amgueddfa,” meddai’r hwylusydd, Allan Trow. “Mae’n weithdy ardderchog, ac yn canolbwyntio ar gael hwyl gyda gwyddoniaeth mewn ffordd sy’n cynorthwyo pobl i archwilio a dysgu am y byd o’u cwmpas. Mae rhywbeth i dynnu sylw pawb, oedolion yn ogystal â phlant!”
Mae’r digwyddiad hwn hefyd yn cysylltu gyda Hyd y diferyn olaf: Olew a Llandarcy, arddangosfa gyfredol sy’n edrych ar hanes can mlynedd purfa olew gyntaf y DU a phentref y gweithwyr.
Ond mae mwy fyth o hwyl – bydd gan ymwelwyr gyfle i Greu Blwch Bygiau ar ddydd Sadwrn 13, Sul 14, Sadwrn 20 a Sul 21 Chwefror. Rhwng 1 a 4pm, bydd cyfle i’r sawl sy’n caru creaduriaid wneud eu blwch bygiau eu hunain, gyda chwyddwydr i weld manylder anhygoel y creaduriaid sy’n cael eu casglu.
Wrth sôn am y gweithgareddau dros y gwyliau, meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris: “O greu blwch bygiau i ddysgu am olew, mae rhywbeth i ddiddanu pawb – mae’n bryd unwaith eto i fwynhau hwyl i’r teulu, yn rhad ac am ddim.”
I archebu eich lle ar Olewyl, cysylltwch â (01792) 638950.
Mae Creu Blwch Bygiau yn weithdy galw-i-mewn, nid oes angen archebu o flaen llaw.
Tynnu lluniau: os hoffai aelodau o’r cyfryngau fynychu, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.
Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith o amgueddfeydd cenedlaethol ledled Cymru.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe