Datganiadau i'r Wasg

Trysorau newydd

Cyhoeddi pedwar eitem a ddarganfuwyd yn ne Cymru yn drysor

Mae archeolegwyr Amgueddfa Cymru yn credu taw’r darn coll o freichled a ddarganfuwyd yn 2005 yw’r darn o’r Oes Haearn a ddarganfuwyd yn Nhrebefered y llynedd (2009). Heddiw (dydd Mercher, 10 Chwefror) cyhoeddodd Crwner Ei Mawrhydi bod y darn, ynghyd â chelc bychan o ddwy fwyell balstaf o Ganol yr Oes Efydd o Lanilltud Fawr, modrwy gilt arian ôl-ganoloesol o Lan-faes a thlws modrwyol gilt arian o Lantriddyd, yn drysor.

Mae patrwm o drionglau neu gyplysau diddiwedd a llinell o ddotiau ar y freichled. Fe’i gwnaed ddiwedd yr Oes Haearn ac fe’i claddwyd mewn bedd lle’r oedd breichled arall yn union oedd yr un fath â hi. Ffeindiwyd honno yn 2005 ac fe’i cyhoeddwyd yn drysor yn 2006. Wrth gymharu’r ddau ddarn, cafwyd eu bod yn asio, bod yr addurn yn union yr un fath a bod y patrwm yn ddi-dor.

Mae’r fodrwy gilt arian a ffeindiodd datguddiwr metel yn Llan-faes ym mis Tachwedd 2008 ar ffurf modrwy lydan blaen. Ar ei hymyl fewnol engrafwyd y geiriau ‘I LICKE MY CHOYS’ mewn priflythrennau Rhufeinig, sy’n nodweddiadol o’r 17eg ganrif.

Darganfuwyd ffrâm y tlws canoloesol o’r 14eg ganrif yn Llantriddyd, Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2009. Daw’r ffrâm gilt arian o dlws rwyllwaith chweonglog.

Cyhoeddwyd celc bychan o ddwy fwyell balstaf o ganol yr Oes Efydd yn drysor hefyd. Cafodd y rhain eu darganfod ar dir âr get Llanilltud Fawr ym mis Medi 2009. Mae celc Llanilltud Fawr, oedd yn cynnwys dau fath o fwyell balstaf – y naill â llafn llydan a’r llall â llafn cul – yn dyddio o’r cyfnod rhwng 1350–1250CC. Mae’r celc yn bwrw goleuni ar y defnydd cynnar o fwyeill llafn cul yng Nghymru.

Bydd Amgueddfa Cymru yn ymdrechu i gaffael y gwrthrychau ar ôl iddynt gael eu prisio’n annibynnol.

Ceir mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle caiff y gwrthrychau eu harddangos yn y dyfodol, diolch i gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, delweddau neu i drefnu cyfweliadau, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk <mailto:catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk>.