Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa o waith artistiaid sy'n cystadlu am Wobr £40,000 Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Agorwyd pedwaredd arddangosfa celf gyfoes ryngwladol Artes Mundi yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Iau 11 Mawrth a bydd yn para tan 6 Mehefin 2010. Mae gwaith yr wyth artist a ddaeth i’r rhestr fer yn adlewyrchu bydoedd a gwirioneddau gwahanol.

Levent Çaliko?lu, Prif Guradur Amgueddfa Gelf Fodern Istanbul a’r curadur a’r beirniad celf Viktor Misiano sy’n gweithio yn Moscow a’r Eidal gafodd yr her o ddethol wyth artist i’r rhestr fer, o bron i 500 o enwebiadau rhyngwladol o 80 o wledydd. Dewiswyd artistiaid sy’n darlunio’r wleidyddiaeth o’u hamgylch.

Daw Adrian Paci o Albania ond mae’n byw yn yr Eidal erbyn hyn yn dilyn newid cyfundrefnol trawmatig i’w wlad; o Fwlgaria y daw Ergin Çavu?o?lu a lwyddodd i osgoi polisïau cymathu yn nyddiau olaf y llywodraeth gomiwnyddol; mae Gulnara Kasmalieva a Muratbek Djumaliev yn byw yn un o weriniaethau newydd Canol Asia - Kyrgyzstan ond fe’u magwyd yno yn ystod y cyfnod Sofietaidd; mae Olga Chernysheva yn parhau i fyw yn ei mamwlad, Rwsia ond yn gweld yn ddyddiol sut mae Mosgofiaid yn dod i dermau â’u trefn gymdeithasol newydd; mae Chen Chieh-jen yn dod o Taiwan ac mae’n datgelu’r teimladau o ansicrwydd sydd yno yn sgil byw mor agos i’w cymydog Tsieina; mae Yael Bartana yn archwilio perthynas yr unigolyn o fewn cymdeithas, yn arbennig perthynas Israel a chymunedau eraill gyda chysylltiadau Iddewig - Israelaidd cryf; ac mae Fernando Bryce, o Beriw wedi byw yn Ewrop ers bron i 20 mlynedd yn ail-gyflwyno hanes ymerodrol a threfedigol ac yn dangos sut y mae’r gwahanol gyfryngau wedi cyflwyno digwyddiadau.

Yn Artes Mundi 4, mae’r artistiaid yn ymdrin â materion hunaniaeth genedlaethol, globaleiddio, y diwylliant prynu, propaganda ac ymfudo. Maent yn cyflwyno effaith newidiadau economaidd a gwleidyddol ar eu cymdeithasau gwledig neu drefol ac ar gymunedau ehangach – lleol, rhanbarthol, byd-eang – trwy gyfrwng peintiadau, ffotograffiaeth, fideo, sain, darluniau a gosodiadau. O fasnachwyr Kyrgyztan ar Ffordd y Sidan i weithwyr ffatri Taiwan, daw bywydau pobl gyffredin o bendraw’r byd â diwylliannau dieithr yn fyw o flaen ein llygaid.

“Dros y misoedd diwethaf, fel curadur yr arddangosfa sy’n cyflwyno casgliad o weithiau gan bob un o’r artistiaid, dwi wedi dod yn ymwybodol o sgil effeithiau cwymp comiwnyddiaeth,” dywedodd Tessa Jackson, Cyfarwyddwr Artistig a sylfaenydd Artes Mundi a gafodd ei phenodi’n Brif Weithredwr Iniva yn ddiweddar.

“Mae cynnwrf cymdeithasol sy’n dilyn y fath newid gwleidyddol wedi gorfodi rhai i adael eu mamwlad, gadael teulu a dechrau bywyd newydd mewn cyd-destun newydd. Mae eraill wedi parhau â’u bywydau ble y maent wedi bod erioed gan brofi ‘trefn newydd’ o fewn amgylchedd cyfarwydd. Mae gwaith pob un o’r artistiaid yn adlewyrchu eu cyd-destun gwleidyddol mewn rhyw ffordd.”

Mae Artes Mundi yn dwyn ynghyd artistiaid penigamp o bedwar ban byd sy’n ein sbarduno i feddwl am y cyflwr dynol a dynoliaeth, a’i nod yw rhoi llwyfan i artistiaid cyfoes sydd wedi ennill eu plwyf yn eu gwledydd eu hunain, ond sydd heb gael fawr o sylw beirniadol yn y DU. Mae llawer ohonynt yn enwau cyfarwydd yn y byd celf rhyngwladol, rhai trwy arddangos eu gwaith mewn gwyliau biennale ac mewn digwyddiadau celf blaenllaw eraill.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

 

"Mae Artes Mundi yn un o'r gwobrau celfyddydol cyfoes mwyaf yn y byd ac erbyn hyn hwn yw un o'r dyddiadau pwysicaf yng nghalendr celf gyfoes Cymru.

“Mae'r wobr yn adnabod artistiaid cyffrous ac arloesol o bob rhan o'r byd ac rydw i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf gyfoes i ymweld â'r arddangosfa yma."

Bydd y beirniaid yn ystyried gwaith yr artistiaid dros y pump i wyth mlynedd diwethaf, a chaiff enw’r enillydd ei gyhoeddi ar 19 Mai 2010.

Eglurodd Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu Amgueddfa Cymru sut mae partneriaeth yr Amgueddfa gydag Artes Mundi wedi datblygu ers y cychwyn cyntaf:

“Mae’r berthynas rhwng Amgueddfa Cymru ac Artes Mundi yn fwy na dim ond lleoliad ac arddangosfa. Mae Artes Mundi wedi gwneud cyfraniad mawr at ddatblygu enw da’r Amgueddfa am gefnogi a chyflwyno artistiaid cyfoes o Gymru a’r byd. Bydd oriel newydd sbon yn cael ei hagor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod haf 2011, gan roi llawer mwy o gyfle inni ehangu ein cyfraniad at gelfyddyd gyfoes yng Nghymru a thu hwnt.”

Cefnogir y gwaith dethol a beirniadu rhyngwladol gan Bank of America Merrill Lynch fel rhan o’u rhaglen sefydlog i noddi’r celfyddydau yn UDA sydd bellach yn cael ei hehangu i Ewrop. Yn ymuno â nhw fel prif noddwr Artes Mundi 4 y mae’r ganolfan siopa newydd yng Nghaerdydd - St David’s Dewi Sant, sydd hefyd wedi buddsoddi’n sylweddol mewn projectau celf cyhoeddus yn y brifddinas. Mae noddwyr eraill Artes Mundi 4 yn cynnwys Admiral, Confused.com, Legal & General, Starbucks, UWIC, Sky Arts, First Great Western a’r Western Mail. Ariennir Artes Mundi 4 gan Raglen Fuddsoddi Arts & Business, fel cydnabyddiaeth o’u partneriaethau creadigol gyda’r sector corfforaethol.