Datganiadau i'r Wasg
SGARFF FAWR GOCH BBC RADIO WALES YN ABERTAWE
Dyddiad:
2010-04-06Mae rhannau o’r Sgarff Fawr Goch gafodd ei gweu gan wrandawyr Radio Wales i gefnogi carfan rygbi Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010 i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar hyn o bryd.
Bu Jamie Owen a Louise Elliott yn annog pobl Cymru i ymuno â nhw gyda’u gweill neu sgarffiau coch fel rhan o ymgyrch Backing the Boys BBC Radio Wales. Unodd pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gefnogi’r chwaraewyr rygbi trwy weu 6572 troedfedd - 1.25 milltir o sgarff coch!
“Mae’r gefnogaeth i’r ymgyrch wedi bod yn anhygoel,” meddai Louise. “Mae’n briodol iawn ein bod ni’n arddangos rhannau o’r sgarff yn Amgueddfa’r Glannau gan fod mwy o bobl Abertawe wedi cymryd rhan yn y fenter nag unrhyw dref neu ddinas arall yng Nghymru!”
Roedd, Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa wrth ei fodd gyda’r sgarff: “Mae’n wych sut mae’r sgarff wedi’i lapio o gwmpas pob rhan o falconi’r Amgueddfa bron iawn ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ei harddangos yma. Pan adeiladwyd yr Amgueddfa, roedd yn cael ei hystyried fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a chymunedol yn ogystal ag fel lle i archwilio diwydiant Cymru – felly mae’r math hwn o broject yn ddelfrydol i ni gymryd rhan ynddo a’i gefnogi.”
Bydd y sgarff goch enwog i’w gweld yn yr Amgueddfa o ddydd Gwener 2 Ebrill i ddydd Llun 31 Mai.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Backing the Boys, cysylltwch â Ceri Mears 029 2032 3599 / ceri.mears1@bbc.co.uk
Radio Wales - bbc.co.uk/radiowales, 93.9 FM a 882 AM, sianel Sky Ddigidol 0117, sianel Freesat 714 neu Freeview 719.
I gael rhagor o wybodaeth am Amgueddfa’r Glannau, ffoniwch Marie Szymonski ar 01792 638970.
Gallwch gael mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru diolch i gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.
• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe