Datganiadau i'r Wasg

Hadau a hanes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'r penwythnos hwn

Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud dydd Sadwrn hyn (22 Mai), yna gwnewch yn si?r eich bod yn galw heibio’r Amgueddfa.

Rhwng 10am a 4pm cewch gyfle i olhrain eich coeden deuluol yn y Ffair Ymchwil Hanes Lleol a Hel Achau. Bydd y digwyddiad hwn, a drefnir gan Gymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg, yn gyfle i ddysgu sut i chwilio trwy archifau, cofnodion a ffotograffau ac yn gyfle i gwrdd ag arbenigwyr o wahanol sefydliadau.

Yna, rhwng 1 a 4pm dewch i Blannu Hedyn! I ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth 2010, cynlluniwyd y sesiwn galw heibio hwn i roi chi ar ben y ffordd i dyfu eich blodau a’ch llysiau eich hun, a bydd cyfle i blant wneud potyn i’w addurno. Bydd y 100 ymwelydd cyntaf yn derbyn hadau blodau haul yn rhad ac am ddim!

“Penwythnos prysur arall yn yr Amgueddfa,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Mae gennym rywbeth i blesio pawb, waeth a ydych yn ceisio olrhain eich cyndeidiau, neu am wybod mwy am fioamrywiaeth a phlannu hadau.”

Cynhelir y Diwrnod Ymchwil Hanes Lleol a Hel Achau rhwng 10am a 4pm ac bydd Plannwch Hedyn yn rhedeg rhwng 1 a 4pm.

Ffoniwch (01792) 638950 neu ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk am fwy o wybodaeth.

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

Croeso i aelodau o’r wasg - cysylltwch â Marie Szymonski ar (01792) 638970 os ydych chi’n bwriadu dod.

Mae mynediad i amgueddfeydd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe