Datganiadau i'r Wasg

Hwyl i'r teulu cyfan dros y Sulgwyn — a hynny am ddim!

Mae hanner tymor ar y ffordd ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n paratoi ar gyfer wythnos hwyliog o weithgareddau a gweithdai difyr i blant.

Bydd y cyfan yn dechrau gyda Swyn y Sêr ar 29 Mai (11.30am, 1pm a 3.30pm), a fydd yn gyfle i blant rhwng 5 ac 11 oed ddarganfod sut roedd pobl oes Fictoria’n syllu ar y sêr. Cyfle hefyd i’r plant wneud eu collage serol eu hunain.

Ar 30 Mai (11.30am, 1pm a 3.30pm), bydd Ffotogramau Ffynci yn helpu cyw-beiriannwyr i ddysgu sut roedd ffotograffwyr cynnar yn tynnu lluniau heb gamera.

Yna, rhwng 31 Mai a 4 Mehefin (1pm a 3pm), bydd Jon Chase, y cyfathrebwr gwyddoniaeth a rapiwr o CBBC, yn arwain Rap Diwydiannol ac yn archwilio’r wyddoniaeth tu ôl i brosesau diwydiannol.

A pheidiwch ag anghofio Sialens Treialon Cyflymder Gener8 dydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Mehefin (1.30pm) – lle bydd cyfle i’r plant wneud eu cerbyd cyflym eu hunain.

“Mae gennym rhywbeth i ddifyrru’r plant bob dydd“ meddai Miranda Berry, y Swyddog Digwyddiadau. “Yn ogystal â gweithdai creadigol, mae orielau ymarferol yr Amgueddfa’n barod i gael eu harchwilio - ac mae gennym lwybr ardderchog i deuluoedd.”

Am fwy o wybodaeth, neu i archebu lle, ffoniwch 01792 638950 neu ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk