Datganiadau i'r Wasg
Penydarren - bant â'r cart!
Dyddiad:
2010-06-09Byddwn yn codi stêm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sul 13 Mehefin (12-3.30pm), drwy arddangos replica gweithredol o injan stêm cyntaf y byd.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y locomotif eleni, ac mae paratoadau eisoes ar y gweill ar gyfer y digwyddiad mawr.
“Mae’n gyfle gwych i ddangos sut y defnyddiwyd rhai o’r casgliadau rhagorol sydd gennym yma yn yr Amgueddfa yn y gorffennol,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Mae’n atyniad sydd wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn ogystal â phobl â diddordeb arbennig mewn trenau a rhwydweithiau. Mae’n ddigwyddiad i’r teulu cyfan ei fwynhau, ac yn gyfle i ddysgu ychydig o’r hanes ar yr un pryd”.
Crewyd y replica o’r injan ym 1981. Mae’n gopi o’r tram ffordd arloesol a adeiladodd Richard Trevithick ar gyfer Gweithfeydd Haearn Penydarren, Merthyr Tudful.
Ar 21 Chwefror 1804, rhedodd yr injan ar hyd y dramffordd naw milltir rhwng Penydarren ac Abercynon, gan lusgo llwyth o ddeng tunnel o haearn a thua saithdeg o bobl a fachodd reid answyddogol! Dyma oedd y daith lwyddiannus gyntaf gan locomotif stêm ar gledrau, a fe sbardunodd chwyldro byd-eang ym myd trafnidiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r replica, sydd ar ddangos nawr yn yr Amgueddfa, wedi bod dramor ddwywaith i ddathlu 150 mlynedd er sefydlu systemau rheilffordd yr Iseldiroedd a’r Almaen.
DIWEDD
Nodiadau i’r golygydd
Am fwy o wybodaeth, neu i gael tynnu llun, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.
Mae mynediad i amgueddfeydd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru:
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Wlân Cymru
Amgueddfa Lechi Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau