Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau yn dathlu talent cerddorol gorau Cymru

Gelwir Cymru yn aml yn wlad y gân, ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu hyn gyda Ffilm ac Oriel Arloeswyr Cerddorol newydd.

Yn edrych ar gerddorion Cymreig drwy’r degawdau, mae’r oriel newydd yn cynnwys cantorion, corau, grwpiau, gwyliau a chyfansoddwyr byd-enwog, gyda phobl fel Y Fonesig Shirley Bassey, Bryn Terfel, Côr Godre’r Garth, Côr Orffiws Treforys, Ivor Novello a Meic Stevens yn eu plith.

Ceir gwrthrychau diddorol i ategu pob panel, gan gynnwys esgidiau glaw a wisgwyd gan y Foneddiges Shirley Bassey yng ng?yl Glastonbury 2007 (gyda’r secwins, y mwd a’i llofnod), casgliad o lyfrynnau G?yl Gerddoriaeth a Chelfyddydau Abertawe, darn o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr Dr Joseph Parry a CD o Blodwen, un o’r operâu enwocaf o Gymru, ac LP, casét a CD gan y gr?p gwerin o Gymru, Ar Log.

Hefyd yn yr oriel mae jiwcbocs rhad ac am ddim, yn llawn caneuon gan artistiaid o Gymru, yn cynnwys Paul Potts a ddaeth i enwogrwydd yn sgil Britain’s Got Talent ar ITV, Tom Jones, Cerys Matthews, Aled Jones, Connie Fisher a Bad Finger.

Mae’r ffilm, sy’n cael ei harddangos yn Oriel Gwaith Diwrnod yr Amgueddfa, yn canolbwyntio ar y diwydiant, gan edrych ar lwyddiant stiwdios recordio, cantorion, bandiau a sêr y dyfodol. Er enghraifft, a wyddech chi fod cân enwog Queen, Bohemian Rhapsody wedi’i recordio yn Rockfield Studios ym Mynwy? Ac a oeddech yn gwybod mai Spillers Records yng Nghaerdydd yw’r siop recordiau hynaf yn y byd?

Mae’r ffilm yn gymysgedd ddynamig o ddeunydd gwreiddiol a heb ei weld o’r blaen, gyda ffotograffiaeth lonydd, i gyfeiliant traciau adnabyddus gan gynnwys y fersiwn newydd o gân enwog Bonnie Tyler yn 1983, Total Eclipse of the Heart gydag Only Men Aloud! - enillwyr Last Choir Standing y BBC, a fersiwn Ysgol Glanaethwy o Adiemus gan y cyfansoddwr o Gymru, Karl Jenkins.

Mae’r ffilm hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda rhai o enwau mwyaf Cymru yn y busnes, yn eu mysg, Bonnie Tyler, Cian Ciaran o’r Super Furry Animals ac Angharad Jenkins o Calan – rhan o gr?p cerddoriaeth werin Cymreig dynamig sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ddeunydd ar gyfer eu hail albwm ac yn paratoi ar gyfer taith yn yr Eidal ym mis Gorffennaf a Llydaw ym mis Awst.

“Mae’n olwg ffres ar y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru,” meddai’r Curadur Diwydiant Modern, Ian Smith. “Mae’n edrych ar groestoriad o lawr gwlad, gyda deunydd yn amrywio o Kidz R Us, prosiect cymunedol yn Nhredegar lle gall plant rhwng tair a 19 oed ddysgu canu, dawnsio ac actio, i unigolion sydd wedi bod yn llwyddiannus am dros 40 mlynedd. Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd pobl gyffredin sy’n parhau i gefnogi cerddoriaeth o Gymru.”

Yn siarad am yr ychwanegiadau newydd i’r casgliadau, meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris: “Rydym yn falch iawn o gael yr oriel a’r ffilm ar ddangos yn yr Amgueddfa. Mae’n pwysleisio llwyddiant y diwydiant, a’r ffordd y mae’n parhau i dyfu a datblygu gyda sêr mwy diweddar megis y Manic Street Preachers, Duffy ac Only Men Aloud! Datgelir yr amrywiaeth o gerddoriaeth o Gymru, o gorau traddodiadol i roc a phop – ac mae eisoes yn profi’n boblogaidd ymysg ein hymwelwyr o bob oed a diddordeb cerddorol.”

I ddathlu’r oriel a’r ffilm newydd, cynhelir digwyddiad lansio yn yr Amgueddfa ar ddydd Iau 17 Mehefin. Bydd y gynulleidfa o wahoddedigion yn cael cyfle i grwydro o amgylch yr oriel, gwylio’r ffilm a mwynhau perfformiadau gan

Spencer Davis o Abertawe, a oedd yn arwain un o’r bandiau Rhythm & Blues mwyaf dylanwadol ym Mhrydain yn y 1960au. Sengl Rhif 1 cyntaf y gr?p oedd Keep on Runnin ym mis Rhagfyr 1965, yna ym mis Mawrth 1966 Somebody Help Me a aeth hefyd i Rif 1. Gydag aelodaeth wahanol yn 1967 defnyddiwyd eu cerddoriaeth ar drac sain y ffilm Brydeinig Here We Go Round the Mulberry Bush.

Calan, band gwerin Cymreig dynamig a ffurfiodd yn 2006. Mae’r band yn perfformio cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol bywiog a chyffrous gyda chymysgedd o ffidil, telyn, acordion, pibgorn, pibau a gitâr gyda chanu a chlocsio.

Trwbador, deuawd gwerin dwyieithog o Gaerfyrddin. Er mai ers ychydig fisoedd yn unig sydd ers iddynt ffurfio, maent eisoes wedi chwarae gig ar gyfer DJ Radio 1 Bethan Elfyn, mae Adam Walton wedi chwarae 2 o’u caneuon ar BBC Radio Wales, ac maent wedi ymddangos yn y cylchgrawn cerddoriaeth Cymraeg, Y Selar.

• Pedwarawd llinynnol o Gerddorfa Ieuenctid Gorllewin Morgannwg.

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Mae croeso i aelodau’r wasg a’r cyfryngau fynychu’r digwyddiad lansio – cysylltwch â Marie Szymonski os hoffech fynychu.

Mae mynediad i Amgueddfa Cymru yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe