Datganiadau i'r Wasg

CHWAREL! Arddangosfa ffotograffau gan Glybiau Camera

Arddangosfa ffotograffau gan glybiau camerau Dyffryn Ogwen a Blaenau Ffestiniog

Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis:  21 Mehefin – 3 Medi  2010

Bydd dau glwb camerau o ogledd Cymru yn dod yngh?d yr haf yma yn Amgueddfa Lechi Cymru i arddangos ychydig o’r  ffotograffiaeth gwych yn eu casgliadau.

 Mae’r arddangosfa yn cynnwys nifer o’r math o ffotograffau arferol y byddai rhywun yn disgwyl gweld wrth son am ‘Chwarel’ – delweddau o weithfeydd a lleoliadau diwydiannol, ond hefyd mae’n ceisio edrych yn ehangach ar y thema gan gynnwys elfennau mwy artistig. Esboniodd Ffion James, Cynorthwydd gweithgareddau ar y safle ymhellach:  

 “Wrth baratoi’r arddangosfa, gofynnwyd i’r clybiau - sydd yn hanu o ardaloedd chwarelyddol -  i baratoi amryw o wahanol ffotograffau ar y thema Chwarel – er mwyn cael eu dehongliad nhw ohono. Mae’r ffotograffau y maent wedi paratoi i ni yn portreadu prydferthwch amrywiol diwydiant llechi Gogledd Cymru, ei phentrefi a’i phobl, ei gorffennol a'i phresennol.  Mae nhw’n lluniau haniaethol, tirluniau, lluniau o gymeriadau'r chwareli, adfeilion a llawer iawn mwy!

 “Wrth edrych drwy’r casgliadau roedd hi’n ddiddorol gweld elfennau tebyg yn dod i’r amlwg – rhwng y ddau glwb ond hefyd o safbwynt pobol a natur y gwaith. Rydym wedi ceisio dehongli hyn ymhellach yn yr arddangosfa drwy gyferbynnu’r ffotograffau  gwahanol. Mae rhai pethau wrth gwrs wedi newid tipyn; mae llawer iawn llai o bobol yn gweithio yn y diwydiannau ac mae iechyd a diogelwch yn llawer iawn gwell erbyn heddiw ond wedi dweud hyn, mae rhai pethau wedi aros yr un fath – mae yna dal gymeriadau lliwgar yn gweithio yn y diwydiant – ac mae’r lechen yn dal i gael ei hollti â  llaw grefftus y chwarelwyr!”

 Meddai Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Clwb Camera Dyffryn Ogwen:

"Rydym yn diolchgar iawn i'r Amgueddfa Lechi am y gwahoddiad i gymeryd rhan yn arddangosfa  'Chwarel!' Mae’n  gyfle ardderchog ac unigryw i aelodau ein clwb ddangos eu gwaith mewn arddangosfa broffesiynol o safle uchel.”

Mae’r amgueddfa yn awyddus i bobl roi unrhyw ffotograffau y maent wedi eu tynnu sy’n ymwneud â’r thema

‘Chwarel’  ar y safle wê ffotograffiaeth Flickr a’u bachu hefo’r tag ‘Amgueddfa Lechi Cymru’ neu ‘llechi’.

 Mae’r arddangosfa yn agor ar 21 Mehefin 2010 ac yn rhedeg tan 3 Medi 2010.

Mae mynediad am ddim. Mae mwy o wybodaeth i’w gael ar y safle we  www.amgueddfacymru.ac.uk

 ----- diwedd -----

 Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth i’r wasg a ffotograffau, a fyddech cystal â chysylltu â

Julie Williams ar 01286 873707 e-bost: julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk

Clwb Camera Blaenau Ffestiniog : Mr Mark Mortimer   01766 771679

Clwb Camera Dyffryn Ogwen : Dr Emyr Roberts 01248 600200