Datganiadau i'r Wasg

Hwyl dros y gwyliau yn y Glannau

Mae’r ysgolion ar fin cau am flwyddyn arall ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn paratoi am ychydig wythnosau o adloniant llawn hwyl i’r teulu cyfan – a’r cwbl am ddim!

Rhwng 3 a 8 Awst, gall plant ddysgu am y sgiliau sydd eu hangen i yrru craen. Bydd Byddwch yn Yrrwr Craen yn rhoi cyfle i blant wisgo dillad diogelwch adeiladwr a rhoi cynnig ar godi, troi a thracio mewn craen gweithredol ¼ y maint llawn. Wedyn, rhwng 9 a 13 Awst, gall teuluoedd roi cynnig ar wneud eu rhaff sgipio eu hunain drwy ddefnyddio replica o beiriant gwneud rhaffau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Digwyddiadau galw heibio yw’r ddau ac fe’u cynhelir rhwng 1 a 4pm.

Mae uchafbwyntiau’r haf yn cynnwys Penwythnos Ynni Gwyrdd (20-22 Awst), digwyddiad deuddydd sy’n cynnwys digonedd o weithdai i blant, cyngor ymarferol ar gyfer y cartref a pheiriant smwddis mefus anhygoel sy’n cael ei yrru gan bedalau. Ar yr un penwythnos am 1.30pm, gall darpar wneuthurwyr ffilm fwynhau gweithdy Creu Ffilmiau ag Ynni Solar lle byddant yn dysgu sut y caiff ffilmiau ynni solar eu creu, a’u gwylio mewn sinema arbennig yng nghefn cerbyd gwersylla.

Ac mae mwy...

Bydd Ffair Grefftau Bae Abertawe yn dychwelyd ddydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Medi, gan arddangos doniau a chynhyrchion lleol fel tedi bêrs, gemwaith a chyffug cartref. Cynhelir Diwrnod Cerbydau ddydd Sul 5 hefyd, lle bydd cyfle i weld ceir Gilbern prin o Gymru, modelau rheilffyrdd, injans tân hynafol a phrototeip cynnar o geir solar a thrydan.

“Mae yna rywbeth at ddant pawb,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Rydym yn falch iawn o’r digwyddiadau llawn dychymyg a’r gweithgareddau creadigol sy’n cael eu cynnal gennym yn yr Amgueddfa gydol y flwyddyn. Mae yna ddigon o ddigwyddiadau dan do ac awyr agored i sicrhau nad yw’r plant yn diflasu dros yr haf!”

Os hoffech ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau, gallwch lawrlwytho taflen neu ffonio (01792) 638950.