Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru'n penodi Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd

Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli'r V&A i arwain saith amgueddfa genedlaethol Cymru

Heddiw (12 Gorffennaf 2010) cyhoeddodd Amgueddfa Cymru ei bod wedi penodi David Anderson, Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli Amgueddfa Victoria and Albert, yn Gyfarwyddwr Cyffredinol newydd Amgueddfa Cymru.

Dewiswyd David Anderson o blith amryw o ymgeiswyr rhyngwladol o safon uchel oherwydd ei ddealltwriaeth eang o rôl amgueddfeydd cenedlaethol a diwylliant amgueddfa, ei wybodaeth arbenigol o rôl addysg mewn amgueddfeydd, a’i frwdfrydedd dros ymgymryd â’r rôl.

Mae ei 20 mlynedd o brofiad yn un o amgueddfeydd pwysicaf y byd yn ei wneud yn gwbl addas i arwain Amgueddfa Cymru a bydd yn dechrau ar ei swydd ym mis Hydref 2010.

Mae David Anderson yn awdurdod rhyngwladol diamau ar fentrau dysgu mewn amgueddfeydd, ac yn gynghorydd i’r Llywodraeth ar sawl prosiect gan gynnwys strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg amgueddfeydd ac orielau. Fe gafodd OBE ym 1999 am ei wasanaeth i amgueddfeydd ac addysg. Yn ddiweddar, mae wedi arwain seminarau ar gyfer Ymddiriedolwyr a staff Amgueddfa Cymru ar rôl addysgiadol yr Amgueddfa.

Yn ei swydd gyntaf fel Pennaeth Addysg y V&A, creodd y tîm cyntaf mewn amgueddfa genedlaethol yn y DU a neilltuwyd yn benodol ar gyfer addysg gymunedol. Fel Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli, arweiniodd y gwaith o ddatblygu canolfan newydd gwerth £4 miliwn yr Amgueddfa, Canolfan Sackler ar gyfer Addysg Gelfyddydol a agorodd yn 2008, a ffurfiodd brosiect dysgu ar-lein yr amgueddfeydd cenedlaethol - yr unig brosiect cyhoeddus y mae'r amgueddfeydd cenedlaethol wedi gweithio arno gyda'i gilydd.

Ganed David Anderson yn Belfast a'i fagu yn Swydd Warwick. Cafodd ei ysbrydoli'n wreiddiol i astudio archeoleg gan ei athro hanes radicalaidd, oedd yn hoff o chwarae rygbi, a dyna yn ei dro a'i harweiniodd i arbenigo yn hanes Iwerddon ym Mhrifysgol Caeredin.

Mae ei gariad at lenyddiaeth, cerddoriaeth a llên gwerin Geltaidd yn ei wneud yn awyddus i ymwneud â diwylliant Cymru a'i hyrwyddo yma ac ym mhedwar ban byd.

Mae Mr Anderson yn ymuno ag Amgueddfa Cymru mewn cyfnod cyffrous i'r sefydliad Cymreig gyda'r datblygiadau sydd ar y gweill i greu Amgueddfa Hanes Cenedlaethol yn Sain Ffagan a’r cynlluniau i drawsnewid llawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru erbyn haf 2011 yn parhau. Y gobaith yw creu Amgueddfa Hanes Naturiol i Gymru ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd.

Daw penodiad Mr Anderson yn sgil ymadawiad Michael Houlihan o Amgueddfa Cymru yn dilyn ei benodi'n Brif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd, Te Papa Tongarewa. Mae wedi paratoi’r ffordd ar gyfer y Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd drwy ei waith yn sefydlu Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Ddysg o Safon Ryngwladol.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, soniodd Paul Loveluck, Llywydd Amgueddfa Cymru, am y cyfraniad y cred y gall Mr Anderson ei wneud i'r Amgueddfa:

“Mae Amgueddfa Cymru’n chwarae rôl hynod bwysig ym mywyd y genedl. Mae pobl yn teimlo’n angerddol amdani a’r casgliadau yn ei gofal. Mae David Anderson yn rhannu’r angerdd yma a bydd yn arweinydd brwdfrydig dros rôl yr Amgueddfa yng Nghymru.

“O ystyried ei arbenigedd, mae David Anderson yn gwbl addas i arwain ar y weledigaeth o greu Amgueddfa Ddysg o Safon Ryngwladol ac adeiladu ar ei chyfraniad tuag at fywyd diwylliannol Cymru.

“Mae David Anderson a’i deulu yn sicr o setlo'n fuan yn yr Amgueddfa ac yng Nghymru - ac nid yn unig am fod rygbi yn agos iawn at ei galon! Edrychwn ymlaen at y cyfraniad y bydd yn ei wneud i ddatblygiad yr Amgueddfa.

”Hoffwn ddiolch hefyd i Michael Houlihan am yr holl waith a gyflawnodd yn Amgueddfa Cymru a thuag at ddatblygiad diwylliant Cymru ers iddo ddechrau’n ei swydd yn 2003. Carwn ddymuno'r gorau iddo yn ei rôl newydd fel Prif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd, Te Papa Tongarewa."

Ag yntau'n awdur, yn areithiwr ac yn hyrwyddwr amgueddfeydd, polisi diwylliannol ac addysg gelfyddydol yn rhyngwladol, does dim dwywaith y bydd Mr Anderson â diddordeb yn statws yr Amgueddfa fel y darparwr mwyaf o ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth yng Nghymru.

“Edrychaf ymlaen at arwain sefydliad sydd, o dan arweiniad Mike Houlihan dros y blynyddoedd diwethaf, wedi dod yn rhan mor bwysig o fywyd y Gymru gyfoes," dywedodd Mr Anderson.

“Mae casgliadau Amgueddfa Cymru'n amrywio'n helaeth ar draws y celfyddydau a'r gwyddorau, ac maent yn unigryw ymhlith amgueddfeydd y Deyrnas Unedig fel cofnod o genedl a hanes a dyheadau ei phobl. Mae prosiectau fel yr amgueddfa newydd arfaethedig yn Sain Ffagan a Chasgliad y Bobl ar-lein yn fuddsoddiad allweddol yn nyfodol addysgol y wlad.

“Fel cyfrannwr pwysig i strategaeth ddiwylliannol newydd Llywodraeth y Cynulliad, bydd yr Amgueddfa'n gweithio i hybu enw da Cymru'n rhyngwladol ac yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd y wlad wrth iddi ddod allan o'r dirwasgiad.”

Croesawyd penodiad Mr Anderson gan Weinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones AC:

“Hoffwn longyfarch David Anderson ar ei swydd newydd yn Amgueddfa Cymru. Mae gan Lywodraeth y Cynulliad berthynas ragorol â'r Amgueddfa - drwy weithio tuag at ddatblygu ein hamgueddfeydd cenedlaethol a thrwy rannu treftadaeth Cymru â chymaint o ymwelwyr â phosibl. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Amgueddfa yn y cyfnod newydd hwn gyda Mr Anderson wrth y llyw."

Talodd Syr Mark Jones, Cyfarwyddwr y V&A deyrnged i David Anderson a’i waith yn yr Amgueddfa:

“Mae David Anderson wedi cyfrannu’n helaeth i’r V&A yn ystod ei 20 mlynedd yma.

Fel Cyfarwyddwr ein Hadran Addysg a Dehongli, mae ei wybodaeth a’i arbenigedd wedi dylanwadu ar ein gwasanaethau. Mae hefyd wedi bod yn ganolog i’n polisi diwylliannol a’n gwaith ar amrywiaeth. Yn ogystal, chwaraeodd David rôl allweddol mewn datblygu rhaglen bartneriaeth ranbarthol gryf, ac fel cyd-Gadeirydd Gr?p Diwylliannol Exhibition Road o 15 o brif fudiadau, fe gyfrannodd at greu corff newydd yn ymroddedig i sefydlu South Kensington yn ardal ddiwylliannol cyntaf a gorau Llundain. Bydd ei arweiniad a’i ymrwymiad i ddatblygu Canolfan Sackler ar gyfer addysg gelfyddydol yn dystiolaeth weledol o’i amser yn y V&A.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithredu saith amgueddfa ledled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad am ddim i bob un o'r amgueddfeydd cenedlaethol, diolch i gefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth a ffotograffau, croeso i chi gysylltu â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, ar (029) 2057 3185/07920 027067 neu e-bostiwch:

catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i Olygyddion

• David Anderson

Ar ôl dechrau ei yrfa fel athro hanes mewn ysgol uwchradd, denwyd David Anderson at amgueddfeydd gan eu potensial fel lleoedd ar gyfer dysgu gydol oes. Dechreuodd ei yrfa gydag amgueddfeydd fel Swyddog Addysg i bump o amgueddfeydd awdurdod lleol ym Mhafiliwn Brenhinol, Oriel Gelf ac Amgueddfeydd Brighton. Gweithiodd wedyn yn yr Amgueddfa Forol Genedlaethol yn Greenwich, cyn symud i'r V&A ac mae bellach yn awdurdod ar amgueddfeydd, polisi diwylliannol ac addysg gelfyddydol.

Bydd yn gadael ei swydd fel Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli ac aelod o dîm uwch-reolwyr Amgueddfa Victoria and Albert, Llundain, i arwain Amgueddfa Cymru, gan ddod â'i arbenigedd addysgol gydag ef.

Mae uchafbwyntiau ei yrfa'n cynnwys:

• OBE ym 1999 am wasanaeth i amgueddfeydd ac i addysg

• Datblygu Gr?p Diwylliannol Exhibition Road yn ardal ddiwylliannol gyntaf Llundain - sydd bellach yn gwmni cyfyngedig annibynnol ag iddo statws elusennol

• 70 cyhoeddiad gan gynnwys adroddiad i Lywodraeth y DU, A Common Wealth: Museums in the Learning Age (DCMS, 1999)

• Ymgynghorydd i'r Llywodraeth blynyddoedd lawer ar amrywiaeth eang o fentrau, gan gynnwys Culture Online, Creative Partnerships a strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg amgueddfeydd ac orielau

• Creu Canolfan Sackler ar gyfer Addysg Gelfyddydol, canolfan newydd gwerth £4 miliwn y V&A a agorodd yn 2008

• Ffurfio consortiwm o naw amgueddfa genedlaethol i greu prosiect dysgu ar-lein yr amgueddfeydd cenedlaethol - yr unig brosiect cyhoeddus y mae'r amgueddfeydd cenedlaethol wedi gweithio arno gyda'i gilydd - a lansiwyd yn 2009

• Y prosiect partneriaeth ddigidol arloesol, Every Object Tells a Story - gwefan gynnar ar gyfer cyfraniadau gan ddefnyddwyr lle mae'r cyhoedd yn lanlwytho straeon am wrthrychau

• Awdur y llyfrau poblogaidd i blant, The Spanish Armada (1988) a Mutiny on the Bounty (1989).