Datganiadau i'r Wasg

Ffraeo yn Fron Haul

Amgueddfa Lechi Cymru yn troi at ddrama i adrodd hanes y tai

Yr wythnos hon, bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn cynnal perfformiadau o ddrama a

gomisiynwyd yn arbennig i ddod â thai’r chwarelwyr yn fyw.

Bydd y ddrama yn portreadu bywyd g?r a gwraig mewn dau o’r tai ac yn mynegi eu gofid a’u pryderon am eu sefyllfa bersonol ac economaidd. Fel yr eglurodd Julie Williams, Swyddog Marchnata’r amgueddfa:

“Cynhelir y perfformiadau mewn dau o’r tai - sef y t? o 1901, sy’n cynrychioli Bethesda adeg y Streic Fawr, a’r t? o 1969, sy’n cynrychioli Llanberis pan gaewyd Chwarel Dinorwig. Er bod y stori’n cael ei hadrodd yng nghyd-destun y dyddiau a fu, mae’r themâu yr un mor berthnasol heddiw yn sgil yr hinsawdd economaidd, ac mae’r ddau gwpl a’r gymuned gyfan yn wynebu pryderon ariannol dybryd. Gobeithiwn y bydd dramateiddio digwyddiadau o’r fath yn rhoi’r cyfan yn ei gyd-destun i’n hymwelwyr ac yn dod â’r hanesion hyn yn fyw.”

Bydd y perfformiadau unwaith eto’n cael eu cyflwyno gan gwmni drama SHIMLI, sy’n gwmni ifanc newydd, a bydd hyn yn dilyn llwyddiant y ddrama a gafwyd y llynedd am gau Chwarel Dinorwig. Yr actorion yw Mared Elliw Huws a Trystan Roberts, gyda Siwan Llynor yn cyfarwyddo.

“Bwriad y perfformiadau hyn yw dod â hanes y tai yn fyw, a byddwn yn perfformio y tu mewn i’r tai y tro hwn, ac maen nhw’n eitha bychan”, meddai Siwan. “Mae’n braf cael cyfle i greu drama mewn lleoliadau go iawn fel y tai hyn – ac mae’n brofiad gwahanol iawn i fod ar lwyfan mawr gan fod yr actorion yn llawer nes at y gynulleidfa, ac mae hyn yn helpu i chwalu’r rhwystrau. Mae’r cyfan wedi bod yn her – yn enwedig gan fod y gynulleidfa a geir yn yr amgueddfa yn amrywiol iawn, ond rydym yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau’r ddrama ac y bydd yn ychwanegu at eu dealltwriaeth o hanes y tai.”

Bydd y ddrama’n cael ei pherfformio ar safle’r amgueddfa ar Awst 24, 25, 26, 30 a 31 am 12pm (perfformiad Cymraeg), 1.30pm a 3pm (perfformiadau Saesneg).

 

---diwedd---

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707.

Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn ddi-dâl, diolch i nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa drwy Gymru, sef: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon;  Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.