Datganiadau i'r Wasg
Cerbydau, crefftau a llawer mwy ar lan y dŵr dros y penwythnos
Dyddiad:
2010-08-26Ceir Gilbern, trenau stêm, rasys gwirion ac injanau tân hen ffasiwn; dim ond ychydig o’r hyn sydd i’w weld Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y penwythnos (4 a 5 Medi).
Bydd y Diwrnod Cerbydau ymlaen o 11am tan 4pm ar ddydd Sadwrn 5 Medi ac yn gyfle i ymwelwyr ddod i weld ceir Cymreig prin Gilbern, rheilffyrdd model a Penydarren yn codi stêm – model sy’n gweithio o’r locomotif cyntaf yn y byd (yn ddibynnol ar y tywydd 12-3.30pm).
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr archwilio ychwanegiadau newydd i’r casgliadau, yn cynnwys ZECAR – prototeip o gar trydan a wneir ym Mhort Talbot gan Stevens Vehicles a Sinclair C5, y cerbyd batri trydanol a ddyfeisiwyd gan Syr Clive Sinclair ym 1985. Oeddech chi’n gwybod bod gan Dde Cymru ran bwysig i’w chwarae yn natblygiad y C5? Wel oedd si?r, gyda’r cerbyd yn cael ei gynhyrchu yn Ffatri Hoover ym Merthyr Tudful.
Mae uchafbwyntiau eraill y diwrnod yn cynnwys gweithdy Gener8 ar thema rasys gwirion (4 a 5 Medi at 1.30pm) – gweithgaredd ymarferol i’r teulu sy’n cynnwys gwneud prototeipiau ac adeiladu modelau o sgrap, sgyrsiau arbenigol i oedolion a phobl ifanc ac ymweliad arbennig gan Sam Tân (dydd Sul 5 Medi yn unig).
Peidiwch a phoeni os nad yw cerbydau yn tanio’r dychymyg, bydd Ffair Grefftau Bae Abertawe yn gwerthu amrywiaeth o roddion a danteithion wedi’u gwneud yn lleol o emwaith, cerameg a phaentiadau i ffotograffiaeth a nwyddau da eraill a wnaed â llaw. Cynhelir y ffair ym mhrif neuadd yr Amgueddfa o 10am-4pm ar ddydd Sadwrn 4 a dydd Sul 5 Medi.
Os oes diddordeb gennych mewn creu eich crefftau eich hun, archebwch eich lle yn y gweithdy Gwneud a Thrwsio ar ddydd Sadwrn 4 Medi 1.30pm. Gweithgaredd perffaith i oedolion a phobl ifanc yn rhoi cyfle i chi dwrio mewn basgedi o betheuach anghofiedig a gwneud rhywbeth hollol newydd ac unigryw i’r cartref.
“Mae rhywbeth i bawb yn yr Amgueddfa’r penwythnos hwn,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau Miranda Berry. “Boed am ddysgu mwy am reilffyrdd model, edmygu’r ceir Gilbern godidog, bod yn greadigol neu bori drwy ddanteithion y ffair, mae rhywbeth yma i’ch diddori chi a’r teulu cyfan.”
Gweithgareddau’r penwythnos fel a ganlyn:
Sadwrn 4 Medi
Ffair Grefftau Bae Abertawe - 10am-4pm
Gweithdy Gwneud a Thrwsio - 1.30pm (£3 y pen)
Gweithdy Gener8 - 1.30pm (am ddim)
Sul 5 Medi
Ffair Grefftau Bae Abertawe - 10am-4pm
Diwrnod Cerbydau - 10am-4pm (am ddim)
Penydarren yn Codi Stêm - 12-3.30pm (am ddim)
Gweithdy Gener8 - 1.30pm (am ddim)
Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yng ngofal saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.
• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe