Datganiadau i'r Wasg

Crefftau botymau!

Wyt ti’n teimlo’n greadigol? Wyt ti am ddefnyddio dy ddoniau creadigol?

Dere draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn (Sadwrn 18 Medi) a defnyddio dy sgiliau Gwneud a Thrwsio.

Bydd y gweithdy ailgylchu o 1.30-3.30pm, yn gyfle i dwrio yn y bocs botymau a throi hen beth yn rhywbeth newydd sbon.

Wrth siarad am y gweithdy, dywedodd y Swyddog Digwyddiadau Miranda Berry: “Mae’n gyfle gwych i alw draw a dysgu am yr holl bethau c?l a rhyfedd allwch chi eu gwneud gyda botymau – mae’r posibiliadau yn rhyfeddol”.

Hon fydd y pedwerydd gweithdy a’r gweithdy olaf yn rhaglen bresennol Gwneud a Thrwsio, ond mae cynlluniau ar y gweill yn barod ar gyfer rhaglen y gaeaf fydd yn cynnwys themâu megis Dafad a Defnydd, Addurniadau Nadoligaidd, Dyddiaduron a Chalendrau a Calonnau – mewn pryd ar gyfer Dydd San Ffolant!

Mae pob gweithdy yn costio £3 y pen ac yn ddelfrydol ar gyfer oedrannau 16 a h?n.

Bwciwch mewn da bryd i osgoi cael eich siomi (01792) 638950.

DIWEDD

Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yng ngofal saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe