Datganiadau i'r Wasg
Llyfryn newydd yr Amgueddfa Genedlaethol y Glannau bellach ar gael!
Dyddiad:
2010-10-07Mae llyfryn Digwyddiadau Tachwedd 2010 – Chwefror 2011 yn llawn pethau i’w gweld a’u gwneud i bob oedran ac yn darparu gwybodaeth lawn am arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae uchafbwyntiau’n cynnwys Esbonio Eco-Beiriannu gyda Dick Strawbridge (a welwyd ar Celebrity MasterChef y BBC), Dangos Ffilmiau yn yr Oriel, Parti Dydd G?yl Dewi, arddangosfa Streic a Therfysg a llawer, llawer mwy.
Peidiwch anghofio ein digwyddiadau rheolaidd: Canu gyda Babi, Taith Iaith (i ddysgwyr Cymraeg), Plantos y Glannau a Gwneud a Thrwsio.
Lawrlwythwch eich copi o wefan yr Amgueddfa www.amgueddfacymru.ac.uk neu cysylltwch â (01792) 638950.