Datganiadau i'r Wasg

Y Darlun Mawr yn dechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Paratowch eich pensiliau! – Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn fwrlwm o weithgaredd yfory (Sadwrn 9 Hydref) gyda gweithgareddau i nodi dechrau Ymgyrch y Darlun Mawr.

Mae’r fenter flynyddol hon, a lansiwyd yn 2000, wedi tyfu o 180 digwyddiad ar draws y DU i dros 1500 yn fyd eang. Nod yr Ymgyrch yw defnyddio darlunio i greu cysylltiad rhwng yr ymwelydd a chasgliadau amgueddfeydd ac orielau, gofodau trefol a gwledig – a’u cymunedau ehangach – mewn ffyrdd newydd a hwyliog.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal digwyddiad bob blwyddyn i gefnogi’r Ymgyrch a’r thema eleni yw creu llun llyfr stori dychmygus gyda’n adroddwr stori preswyl.

Bydd gweithdai yn cal eu cynnal drwy gydol y diwrnod am 11.30am, 1.30pm a 3pm. Gweithgareddau galw draw yw pob un ac nid oes angen archebu lle.

Dywedodd Marie Szymonski, Rheolwr Marchnata’r Amgueddfa: “Rydym wrth ein bodd i gymryd rhan yn Ymgyrch y Darlun Mawr eleni eto. Mae’r gweithgareddau sydd wedi’u trefnu’n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd, felly galwch draw i gymryd rhan.”

Am fanylion pellach ewch i www.museumwales.ac.uk neu cysylltwch â 01792 638950.