Datganiadau i'r Wasg

Pen-blwydd Hapus Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

Ar ddydd Sadwrn 17 Hydref 2010 – a dros filiwn o ymwelwyr yn ddiweddarach – bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn dathlu ei phumed pen-blwydd yn swyddogol.

Gan groesawu chwarter miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ar gyfartaledd o bob cwr o Abertawe, Cymru, Prydain a thu hwnt, mae’r Amgueddfa yn sicr yn hawlio’i lle ar fap diwylliannol Cymru. Croesawodd ei miliynfed ymwelydd yn swyddogol yn Nhachwedd 2009.

Ers agor, mae wedi bod ar flaen y gad yn arwain cenhedlaeth newydd o amgueddfeydd gyda thechnoleg ryngweithiol ymarferol ac mae’n enwog am ei digwyddiadau a’i harddangosfeydd ysbrydoledig, ei chasgliadau blaengar yn ogystal â’i rhaglenni addysg arobryn.

Mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr ymchwilio i hanesion dynol cyffrous o fyd arloesi a diwydiant yng Nghymru heddiw, a dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae dros 100 o arddangosiadau clyweledol yn cynnwys 36 sgrin ryngweithiol sy’n manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf a sawl gwrthrych mawr fu gynt ar flaen y gad yn dechnolegol, yn cynnwys locomotif stêm cyntaf y byd, gwasg friciau a wagen lo brin.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r Amgueddfa wedi darparu dros 100 o arddangosfeydd amrywiol i’w hymwelwyr. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys arwain y ffordd wrth ddathlu daucanmlwyddiant diddymu caethwasiaeth yn 2007 ac arddangosiad yn dathlu gwaith Isambard Kingdom Brunel – un o beirianyddion mwyaf dylanwadol Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae gwrthrychau a ddangoswyd yn cynnwys ceir, cychod a loriau; planhigion siwgr cansen a chotwm; set de Gymreig a fu i Awstralia ac yn ôl – ddwywaith, a dol wrth-swffragét. Cwch rhwyfo a bwysai hanner tunnell oedd y gwrthrych mwyaf a’r diferyn olaf o olew a wasgwyd o burfa olew Llandarcy oedd y gwrthrych lleiaf.

Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau cyhoeddus yn parhau i fod yn boblogaidd hefyd. Mae dros 1000 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal o gystadlaethau cenedlaethol a gweithgareddau diwylliannol i groesawu Cybermen Dr Who a ieir, hwyaid a defaid o Fferm gymunedol Abertawe.

I nodi’r pumed pen-blwydd, bydd yr Amgueddfa yn cynnal digwyddiad arbennig i ymwelwyr ar dydd Sul 17 Hydref, 11am-4.30pm. Bydd uchafbwyntiau yn cynnwys yr anhygoel Titan y Robot – oedd yn westai yn y seremoni agoriadol yn 2005 – perfformiadau cerddorol gan Gerddorfa ieuenctid Gorllewin Morgannwg, celf a chrefft, plygu bal?ns a llawer mwy.

Mae’r Amgueddfa hefyd yn gofyn i aelodau’r cyhoedd am eu hoff atgofion o’r pum mlynedd diwethaf. Gellir postio’r straeon a’r lluniau yma ar dudalennau Facebook a Twitter yr Amgueddfa a gellir gweld atgofion ysgrifenedig yn y brif fynedfa.

Wrth siarad am y digwyddiad arbennig hwn dywedodd, Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau: “Mae dathlu ein pumed pen-blwydd yn anrhydedd mawr i ni i gyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir nodedig hon gyda ffigyrau ymwelwyr rhagorol ar hyd y ffordd.

“Mae Haf 2010 (Gorffennaf, Awst a Medi) wedi bod yn un o’r tymhorau gorau o ran perfformiad i’r Amgueddfa – roedd y ffigyrau ymwelwyr cyfartalog am y cyfnod hwn bron i 18% yn uwch na’r cyfartaledd am yr un cyfnod yn pedair blynedd flaenorol.

“Yn ogystal a bod yn ddiwrnod allan diddorol, rhad ac am ddim i ymwelwyr, mae gan yr Amgueddfa rôl bwysig fel un o atyniadau mwyaf Abertawe gan ychwanegu i offrwm diwylliannol y ddinas ac mae’n rhan allweddol o adfywiad y ddinas.

“Mae’n bleser gennym barhau i ddarparu addysg, arddangosfeydd a digwyddiadau o safon, yn ogystal â lefelau gwasanaeth sy’n denu ymwelwyr yn ôl dro ar ôl tro.”

Dywedodd Paul Loveluck, Llywydd Amgueddfa Cymru: “Canlyniad partneriaeth unigryw rhwng Cyngor Abertawe a’r Amgueddfa Genedlaethol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri, oedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

“Mae ffigyrau ymwelwyr wedi rhagori ar y nifer a ddisgwyliwyd yn wreiddiol - o 20%, sy’n deyrnged i’r bartneriaeth lwyddiannus, ac egni a brwdfrydedd pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris a’r staff i gyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: “Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers agor ei drysau yn Abertawe.

“Mae’n bwysig bod gan Abertawe atyniadau diwylliannol o safon uchel os ydym â’n bryd ar dyfu’n ddinas Ewropeaidd nodedig ac mae niferoedd yr ymwelwyr sydd wedi tyrru i’r Amgueddfa dros y pum mlynedd diwethaf yn dweud cyfrolau am ei safon a’i phoblogrwydd.

“Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau hefyd yn adeilad eiconig sy’n gwneud argraff dda ar ymwelwyr ger un o byrth mynediad allweddol y ddinas. Ar y cyd ag Amgueddfa Abertawe, mae’n cynnig profiad amgueddfaol i bobl o bob oed all gystadlu ag unman yn y DU.”

Dywedodd Dan Clayton-Jones, Cadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri: “Mae treftadaeth ddiwydiannol a morwrol unigryw Cymru yn rhan annatod o’i hunaniaeth fel gwlad, a dyna pam y clustnodwyd ein grant mwyaf erioed yng Nghymru i’w cynorthwyo i adrodd yr hanes yn llawn i’r cyhoedd drwy gyfrwng yr Amgueddfa hon.

"Rydym wrth ein bodd bod cymaint o bobl yn ymweld a bod oedolion a phlant yn parhau i ddysgu am Gymru fel cenedl ddiwydiannol gyntaf y byd”

Wrth siarad am y garreg filltir bum mlynedd dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AM: “Estynnaf fy nymuniadau gorau i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ei phumed pen-blwydd. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y cyfraniad y mae hi, ac amgueddfeydd cenedlaethol eraill, yn eu gwneud i fywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru."

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

Ar ragor o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata ar 01792 638970.

Am ragor o wybodaeth am Ddinas a Sir Abertawe cysylltwch â Greg Jones ar 01792 636226.

Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri (HLF) yn cynnal a thrawsnewid ystod eang o dreftadaeth fel y gall cenhedloedd heddiw ac yfory gymryd rhan, dysgu a’u mwynhau, drwy ddefnyddio arian a godwyd drwy’r Loteri Genedlaethol. Rydym yn buddsoddi ym mhob agwedd o’n treftadaeth amrywiol o amgueddfeydd, parciau a lleoliadau hanesyddol i archaeoleg, byd natur a thraddodiadau diwylliannol. Mae HLF wedi cefnogi dros 28,800 o brojectau gan glustnodi £4.3 biliwn ar draws y DU, yn cynnwys dros 1,800 o brosiectau gyda chyfanswm o dros £200 miliwn yng Nghymru.

I ganfod mwy ewch i www.hlf.org.uk

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe