Datganiadau i'r Wasg

Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd Amgueddfa Cymru yn dechrau ar ei waith yng Nghymru

Yr wythnos hon (11 Hydref 2010), dechreuodd David Anderson ar ei waith fel Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd Amgueddfa Cymru. Ei waith cyntaf fydd cyfarfod â’r staff ar saith safle Amgueddfa Cymru yn cynnwys Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a bydd yn lansio Ysbrydoli Cymru – dogfen newydd yn dathlu gwaith Amgueddfa Cymru – yn y Senedd ar ddydd Llun 18 Hydref.

Mae Mr Anderson yn ymuno ag Amgueddfa Cymru ar gyfnod cyffrous i’r sefydliad yn cynnwys datblygiadau i greu Amgueddfa Hanes Genedlaethol yn Sain Ffagan a throi llawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru, fydd yn cael ei chwblhau yng Ngorffennaf 2011. Mae cynlluniau hefyd i glustnodi llawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Hanes Natur Cymru.

Wrth gyfarch staff yn Sain Ffagan, cyfeiriodd Mr Anderson – fu gynt yn Gyfarwyddwr Dysgu a Dehongli yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain – at rai o’i dasgau allweddol dros y misoedd nesaf:

“Rwy’n falch o gael y cyfle i arwain sefydliad sydd mor uchel ei barch ac sydd ar flaen y gad yn nhermau casglu, ymchwil a rhaglen gyhoeddus, nid yn unig yng Nghymru, ond yn rhyngwladol,” meddai Mr Anderson.

“Mae Sain Ffagan yn ganolfan cenedlaethol poblogaidd ar gyfer diwylliant a hanes Cymru, â staff sy’n teimlo’n gryf dros rannu hyn gydag ymwelwyr.

“Bydd parhau â’r project datblygu yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cael blaenoriaeth gennyf yn ogystal â chadarnhau lle’r Amgueddfa fel adnodd cyfoes i Gymru. Rôl yr Amgueddfeydd Cenedlaethol yw gwasanaethu pobl Cymru ac mae datblygu partneriaethau diwylliannol yn fodd o gyflawni’r weledigaeth hon yn llwyddiannus. Mae’r ymdriniaeth hon yn bwysicach fyth o ystyried hinsawdd economaidd bresennol y wlad.”

Daw ymweliad David Anderson â Sain Ffagan ychydig cyn un o’i ymrwymiadau cyhoeddus swyddogol cyntaf, lansio dogfen Ysbrydoli Cymru yn Y Senedd, Bae Caerdydd ar ddydd Llun, 18 Hydref 2010.

Mae dysgu yn ganolog i Amgueddfa Cymru ac mae’r papur hwn yn ddathliad o’r gwaith hwn a’n gweledigaeth o fod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol. Mae’r llyfryn yn dangos bod gennym rôl bwysig yn gwarchod casgliadau’r genedl, ond bod y gwaith o ddehongli a chyfathrebu’r casgliadau i bobl Cymru a’i hymwelwyr yr un mor bwysig.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymrwymedig i wneud ein treftadaeth ddiwylliannol mor hygyrch ag sy’n bosibl. Mae polisi mynediad am ddim i’r saith safle a reolir gan Amgueddfa Cymru yn un o ymrwymiadau Cymru’n Un ac rwy’n falch iawn i weld canlyniadau positif y fenter. Dros y flwyddyn ddiwethaf, ymwelodd dros 1.6 miliwn o bobl â’n saith amgueddfa genedlaethol, cafwyd bron i 1.3 miliwn o ymweliadau i wefan Amgueddfa Cymru ac mae 33,5000 o bobl wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i’r safleoedd, a drefnwyd gan yr amgueddfeydd.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

- Diwedd -

Am wybodaeth bellach neu gyfle i gyfweld â David Anderson, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol ar 029 2057 3185 neu drwy e-bostio catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk <mailto:catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk> neu Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3175 neu drwy e-bostio lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk <mailto:lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk>.