Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn cipio gwobr Dwristiaeth fawreddog

Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth frwd i ennill gwobr fawreddog ‘Naws am Le’ yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.

Cafodd y wobr, sy’n cydnabod y busnes sy’n llwyddo i roi blas go iawn o ardal leol a Chymreictod i ymwelwyr, ei chyflwyno i Big Pit am roi i ymwelwyr brofiad cofiadwy sydd hefyd yn adlewyrchu naws y lle.

Meddai Peter Walker, y Ceidwad a Rheolwr y Pwll: “Mae’r wobr yma’n dystiolaeth o’r holl waith caled mae pob aelod o staff yn Big Pit yn ei wneud bob dydd er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn cael cyfle i brofi sut beth oedd bywyd yng nghymunedau glo Cymru.

“Mae ‘naws am le’ wedi bod yn rhan o ddelfryd Big Pit ers agor yr amgueddfa ym 1983. Mae’r pwyslais ar roi profiad tanddaearol go iawn i ymwelwyr, a sicrhau eu bod nhw wedi cwrdd â glöwr go iawn a chael siarad ag e, wedi bod yn rhan ganolog o’n gwaith ers y cychwyn cyntaf. Yn wir, mae gan bob aelod o staff gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rydyn ni wedi ennill tipyn o ganmoliaeth dros y blynyddoedd diweddar am y profiad unigryw rydyn ni’n ei ddarparu, ond mae’r wobr yma’n arbennig am ei bod yn dangos bod y diwydiant yng Nghymru yn cydnabod pwysigrwydd glo a’i hanes i genedlaethau heddiw, a chenedlaethau’r dyfodol.”

- Diwedd -