Datganiadau i'r Wasg

Casglwch eich crefftau Nadoligaidd ar y Glannau

Ydych chi wedi dechrau’ch siopa Nadolig eto? Ydych chi am roi rhywbeth ychydig yn wahanol i Modryb Sali eleni? Dewch draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn i weld amrywiaeth o syniadau celf crefftus ar gyfer tymor y Nadolig.

Ar ddydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Tachwedd o 10am-4pm, bydd Ffair Grefftau Bae Abertawe yn dod â chrefftwyr talentog o’r ardal gyfan ynghyd i arddangos a gwerthu eu creadigaethau crefftus.

Bydd stondinau amrywiol yn arddangos gwydr, cardiau cyfarch, gemwaith a thecstilau i drefnu blodau addurniadol, tedi bêrs a ffotograffiaeth.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i weld y crefftwyr lleol wrth eu gwaith gydag arddangosiadau byw o gerfio coed, llunio llestri a chwiltio yn ogystal â gweithdy lledr.

Wrth siarad am y ffair dywedodd y trefnwr Phil Baker: “Bydd rhai syniadau gwych ar gyfer y Nadolig ymysg y 30 stondin eleni, ond yn bwysicach fyth, bydd cyfle i’r ymwelwyr siarad â chrefftwyr hynod dalentog i ddysgu mwy am eu sgiliau a’u profiad.”

Yn ogystal â phori drwy ddanteithion y ffair, bydd cyfle i ymwelwyr ar ddydd Sadwrn 6 Tachwedd dwrio mewn basgedi o betheuach diwerth a chymryd rhan yn Gwneud a Thrwsio am 1.30pm.

Gan weithio ar thema defnydd a ffibrau, bydd y gweithdy ymarferol yn gyfle i ymwelwyr droi rhywbeth hen neu hen ffasiwn yn rhywbeth ffres, newydd. Pris y gweithdy yw £3 y pen ac mae’n ddelfrydol ar gyfer oedrannau 16 a h?n.

Am ragor o wybodaeth am Ffair Grefftau Bae Abertwe ewch i www.craftfairs-wales.co.uk

Am ragor o wybodaeth, neu i archebu lle yn y gweithdy Gwneud a Thrwsio cysylltwch â (01792) 638950.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe