Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn addo penwythnos llawn hwyl yr ?yl
Dyddiad:
2010-11-11Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn croesawu’r Nadolig y penwythnos hwn (13 a 14 Tach) gydag amrywiaeth o grefftau, cardiau a chreadigaethau disglair Nadoligaidd.
Bydd Gwnewch Siglydd Eira yn si?r o ddiddanu’r plant (13 a 14 Tach am 11.30am, 2pm a 3.30pm). Gweithdy ymarferol, am ddim y gellir archebu lle ynddo lle gallwch ddefnyddio’ch sgiliau creadigol i droi hen bot jam yn olygfa aeafol hudolus.
I rai dros 16, bydd cyfle i gymryd rhan mewn Gweithdy Printio Cardiau Nadolig (13 a 14 Tach am 1.30pm) dan arweiniad Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa. Fel rhan o’r gweithdy rhad ac am ddim byddwch yn dysgu hanes y cerdyn Nadolig yn ogystal â chreu eich cerdyn eich hun.
Wrth siarad am y gweithdy, dywedodd Steph: "Gan ddefnyddio gwasg Fictoraidd draddodiadol, gallwn weld sut y printiwyd cardiau cyn oes cyfrifiaduron, a gyda’r Nadolig yn nesau, byddwn yn creu dyluniadau i danio ysbryd yr ?yl ynoch. Mae gennym stampiau llythrennau rwber cynnar er mwyn i chi brintio neges Nadoligaidd arbennig hyd yn oed." Gellir archebu lle yn y gweithdy hwn drwy gysylltu ar (01792) 638950.
Os taw celf gyfoes sy’n mynd â’ch bryd, beth am archebu lle yn y Gweithdy enamlo Nadoligaidd (10.30am-4pm) a gynhelir ar Sad 13 a Sul 14 Tach.
Enamlo yw canlyniad lliwgar ymdoddi gwydr wedi’i bowdro i fetel gyda gwres uchel gan greu gorchudd gwydrog gwydn. Am £12.50 y pen, gallwch ddysgu’r grefft ryfeddol hon mewn sesiwn ymarferol dan arweiniad yr artist Maggie Jones.
Ar ben hyn oll, beth am alw draw am 2pm ar ddydd Sul 14 Tach i wrando ar y band lleol Baggyrinkle yn perfformio carolau a chaneuon sianti hwyliog yn y brif neuadd.
Cofiwch hefyd bod siop yr Amgueddfa yn llawn syniadau am anrhegion Nadoligaidd yn cynnwys gemwaith hardd, cyffaith a siytni Cymreig, rygiau a blancedi gwlân Cymreig a digonedd o bethau bach i lenwi hosanau’r plant.
Gan edrych ymlaen at weithgareddau’r penwythnos, dywedodd y Swyddog Digwyddiadau Miranda Berry: “Dim ond dechrau’r wledd Nadoligaidd a drefnwyd ar gyfer eleni y byddwn ni dros y penwythnos. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn cynnal Ffair Werdd Nadoligaidd (27 a 28 Tach), sesiwn Eco-Beiriannu ymarferol gyda’r cyflwynydd teledu Dick Strawbridge (5 rhag) yn ogystal â detholiad o ddarlithoedd, sgyrsiau a ffilmiau tymhorol. Bydd unrhyw un fydd yn ymweld â ni yn si?r o adael yn llawn ysbryd yr ?yl!”
Am ragor o fanylion am y digwyddiadau, cysylltwch â’r Amgueddfa ar (01792) 638950.
• Mae Gwnewch Siglydd Eira am ddim a gellir archebu lle
• Mae’r Gweithdy Printio Cardiau Nadolig am ddim a gellir archebu lle
• Mae’r Gweithdy Enamlo Nadoligaidd yn £12.50 y pen a gellir archebu lle
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe