Datganiadau i'r Wasg

Mwyn-hau arddangosfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, prin y clywyd am fenywod oedd yn casglu mwynau. Wnaeth statws cymdeithasol menywod y cyfnod ddim atal y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis fodd bynnag, ac adeiladodd gasgliad gwych o fwynau o bedwar ban byd pan taw dynion yn unig a ymddiddorai yn y maes. Caiff y casgliad mwynau gwych yma ei arddangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 14 Rhagfyr i 31 Mawrth.

Priododd y Fonesig Henrietta Antonia, merch Henry Herbert, Iarll 1af Powis, Arglwydd Clive (Arglwydd Powis) ym 1784. Mae’r arddangosfa yn adrodd hanes y casgliad coll am y tro cyntaf, casgliad a gedwid yn wreiddiol yng Nghastell Powis ond a roddwyd i Amgueddfa Cymru gan Arglwydd Powis ym 1929. Roedd cryn ansicrwydd ar y pryd yngl?n â phwy greodd y casgliad, ond mae darganfod catalogau gwreiddiol y Fonesig Henrietta (syn dyddio o 1817) yn ddiweddar wedi datgelu gwir bwysigrwydd y casgliad.

Mae gan Amgueddfa Cymru un o’r casgliadau mwynau gorau yn y Deyrnas Unedig ag ynddo dros 30,000 o sbesimenau. Mae tîm bychan o arbenigwyr mwynau yn yr Adran Ddaeareg yn ymchwilio i nodweddion mwynau a dyddodion mwynol Cymru, ac yn eu cymharu ag esiamplau o bob cwr o’r byd.

Meddai Dr Richards Bevins, Ceidwad Daeareg Amgueddfa Cymru, “Mae hwn yn gasgliad gwych o fwynau sy’n werth ei weld! Mae’r catalogau a ddaeth i’r fei yn ddiweddar yn rhoi syniad i ni o sut y casglwyd y mwynau yn ogystal â’r bobl y cyfarfu Iarlles Powis â hwy a’r mannau y teithiodd iddynt, a’r modd trefnus y rhifodd ac y disgrifiodd bob sbesimen.“

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3175 neu ebostiwch: lleucu.cooke@museumwales.ac.uk.