Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Diwrnod Santes Dwynwen ar y Glannau

Bydd cariad yn blaguro y Sul hwn (23 Ionawr) yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

I ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen – nawddsant cariadon Cymru – mae’r Amgueddfa wrthi’n paratoi i droi’n hafan gariadus.

Drwy gydol y dydd, bydd arddangosfa o lwyau caru Cymreig o Oriel Llwyau Caru’r Mwmbwls, cwis dirgelwch i ddyfalu beth yw’r gwrthrych cariadus, adrodd straeon cariadus, perfformiad gan Gôr Meibion Pelenna a dangosiad o’r ffilm The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain am 2.30pm yn Oriel y Warws.

Wrth siarad am y paratoadau, dywedodd Marie Szymonski, y Rheolwr Marchnata: “Rydym wrth ein bodd yn dathlu’r diwrnod Cymreig eiconig hwn ac mae digon o weithgareddau i ddiddanu’r teulu cyfan, felly galwch draw i ymuno yn y dathlu.”

Bydd Dydd Sul Cariad yn cael ei gynnal rhwng 11am-4pm.