Datganiadau i'r Wasg

Twf yn Amgueddfa Wlân Cymru

Ar Ddydd Gwener 14 o Ionawr, daeth nifer o rieni a phlant at ei gilydd yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre i ganu, darllen storiau a phaentio fel rhan o brosiect sy’n cefnogi rhieni i drosglwyddo’r Gymraeg yn y teulu.

Mae’r sesiynau hyn yn cael eu cynnal gan un o brosiectau Bwrdd yr iaith Gymraeg, Twf, sy’n cynnig cyngor a chymorth ar fagu plant yn ddwyieithog. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal bob yn ail wythnos tan wyliau’r haf, o 10 y bore tan 11:30, a bydd y cyfarfod nesaf ar ddydd Gwener 28 Ionawr.

 Bydd y sesiynau yn cael eu harwain gan Lynwen Thomas, Swyddog Maes Twf, ac yn cynnwys canu a darllen stori ynghyd ag amryw weithgareddau eraill gan gynnwys tylino babanod ac mae’n gyfle gwych wrth gwrs i rieni ddod am sgwrs.

 Mae croeso i bawb sydd â babanod dan flwydd neu blant bach ac sydd yn frwd dros drosglwyddo’r Gymraeg yn y teulu, boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl ai peidio, i fynychu’r sesiynau.

 Dywedodd Ann Whittall, Rheolwraig Amgueddfa Wlân Cymru: “Rydym wrth ein boddau i allu cynnig gweithgaredd o’r math hyn i blant a rhieni’r ardal. Trwy hyn, bydd y teuluoedd nid yn unig yn ehangu eu defnydd a’u gwybodaeth o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg a Chymreig ond hefyd yn dod yn gyfarwydd â’r Amgueddfa ei hun, sy’n adrodd stori’r ardal, ei phobl, ei diwylliant ac wrth gwrs hanes diwydiant yr ardal.”

 Dywedodd Lynwen Thomas, Swyddog Maes Twf: “Os ydych yn rhiant neu’n ddarpar riant, mae’n bwysig i chi feddwl pa iaith byddwch yn siarad gyda’ch babi.
Mae dewis a gwneud penderfyniad yn gynnar i gyflwyno’r Gymraeg o’r crud yn ei gwneud hi’n haws i ddal ati nes ymlaen. Y cyngor gorau yw dechrau defnyddio’r Gymraeg cyn gynted â phosibl.

Mae’r penderfyniad yn un pwysig – i chi fel rhieni, i’ch plentyn, ac i’r teulu i gyd. Mae siarad dwy iaith yn rhoi mantais i’ch plentyn. Felly croeso i bawb ymuno â ni yn yr Amgueddfa Wlân i fwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg a chymryd y cam pwysig hwnnw i siarad a chael hwyl gyda’ch plentyn yn Gymraeg”

DIWEDD

 Heledd Gwyndaf Dafis, Swyddog Cyfathrebu 01559 370929 heledd.gwyndaf@amgueddfacymru.ac.uk