Datganiadau i'r Wasg

Cariad at fwyd!

Gall ymwelwyr â Big Pit sbarduno’r flwyddyn newydd y penwythnos hwn (29 a 30 Ionawr) drwy brofi’r bwydydd a’r diodydd lleol gorau mewn g?yl ‘Caru Bwyd’.

Bydd ymwelwyr yn medru pori drwy ddetholiad o’r bwydydd a’r diodydd lleol gorau i ganfod anrheg perffaith i anwyliaid, neu i fwynhau’r nwyddau eu hunain. Gall plant wneud eu siocled eu hunain i fynd adref neu ddyfeisio blas caws unigryw. Noddir y digwyddiad gan Gwir Flas, sioe deithiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sy’n hyrwyddo’r gorau o gynnyrch Cymru. Gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth gan fandiau lleol hefyd ynghyd â’r bwydydd blasus.

Dywedodd Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu Big Pit: “Mae trymder gaeaf yn diflasu pobl ar hyn o bryd, a bydd ein digwyddiad ni yn dathlu dyfodiad y Gwanwyn a chyffro Diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, a Diwrnod Sant Ffolant.

“Gall ymwelwyr brynu pob math o gynhyrchion lleol, o win a chyffug i fara a chwisgi, yn ogystal a dysgu mwy am fwyd lleol gyda sioe deithiol Gwir Flas Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gall plant ddysgu mwy am sut y caiff bwyd ei gynhyrchu drwy wneud siocled neu ddylunio blas caws eu hunain i fynd adref.

“I ychwanegu at y thema cariad, bydd cerddoriaeth ramantus yn cael ei chwarae drwy’r penwythnos gyda Gr?p Acordion Gwent yn chwarae ar ddydd Sadwrn a Band Pres Oakdale ar y dydd Sul. A pa ffordd well hefyd i gloi’r ymweliad na thrwy flasu Cawl neu Pice ar y Maen cartref yn Ffreutur y Glowyr. Dewch draw i dreulio diwrnod perffaith gyda’ch cariad.”

Mae gwerthwyr yn yr ?yl ‘Caru Bwyd’ yn cynnwys:

Blaenavon Cheddar Company

Penderyn Distillery

Chocs Away

Rhymney Brewery

Coginio

The Fudge Fairy

Phyilli’s Bakery

Sarah’s Gifts and Hampers

Llantarnam Grange