Datganiadau i'r Wasg

Dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar y Glannau

Mae’n flwyddyn y gwningen ac mae’r dathlu ar ei anterth…

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn llawn bywyd y Sadwrn hwn (5 Chwefror 11am-4pm), gyda gweithgareddau i’r holl deulu i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Mewn gweithgareddau ar y cyd â Canolfan Gymunedol Tsieineaidd y ddinas gall ymwelwyr droi eu llaw at grefft hynafol celf papur, gwneud llusern neu beintio Tsieineaidd yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiwn Tai Chi i ddechreuwyr, cicio gwennoliaid badminton, caligraffi a gemau gyda gweill bwyta.

Bydd cwis dirgelwch yn cael ei gynnal gyda gwrthrychau Tsieineaidd traddodiadol gyda gwobr i’r person gyda’r mwyaf o atebion cywir.

Bydd Arglwydd Faer Dinas a Sir Abertawe, y Cynghorydd Richard Lewis yn agor y dathliadau yn swyddogol gyda pherfformiadau gan y Gr?p Gwragedd Dawnsio Tsieineiadd a Gr?p Henoed Swan Gardens i ddilyn.

Meddai Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris: "Rydyn ni wrth ein bodd i gael gweithio gyda’r Gymuned Tsieineaidd eleni i ddarparu rhaglen mor hwyliog. Bydd yn gyfle gwych i ymwelwyr alw draw a dysgu mwy am ddiwylliant a thraddodiadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.”

“Mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn ddigwyddiad mawr i ni yma yn Abertawe,” meddai April Kong, Rheolwr y Canolfan Gymunedol Tsieineiadd. “Mae ein digwyddiad blynyddol yn llawn perfformiadau cyffrous a digwyddiadau egniol sydd yn denu ystod eang o bobl – gobeithiwn taw 2011 yn yr Amgueddfa fydd ein digwyddiad gorau a mwyaf poblogaidd eto.”

Ac nid dyna ddiwedd yr hwyl – ar ddydd Sul 6 Chwefror bydd dangosiad o’r ffilm animeiddiedig McDull Kung Fu Ding Dong yn Oriel y Warws yn yr Amgueddfa am 2pm, y ffilm ddiweddaraf mewn cyfres sydd wedi ennill gwobrau am fochyn o Hong Kong.

DIWEDD

Dodiadau i’r golygydd

Cyfle i dynnu lluniau: Cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970 i wneud trefniadau.

Am ragor o wybodaeth am y Ganolfan Gymunedol Tsieineaidd ewch i http://www.swanseachinese.co.uk

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe