Datganiadau i'r Wasg

Rhannu casgliadau cenedlaethol mewn arddangosfeydd newydd yng Nghanolbarth a Gogledd Ddwyrain Cymru

Amgueddfa Cymru ar waith yn y Drenewydd, Rhuthun a Wrecsam

Gwaith celf gan T. H. Thomas, dyluniadau arian cyfoes a gwrthrychau hanesyddol – dyma rai enghreifftiau o drysorau’r casgliad cenedlaethol fydd ar gael i drigolion Canolbarth a Gogledd Ddwyrain Cymru eu mwynhau dros y misoedd nesaf.

Drwy weithio mewn partneriaeth ag Oriel Davies yn y Drenewydd, Canolfan Grefft Rhuthun, Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam (fydd yn agor ar 14 Chwefror 2011) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd Amgueddfa Cymru yn arddangos rhai o’i thrysorau mewn tair arddangosfa newydd, gan gychwyn fory (5 Chwefror 2011) yn y Drenewydd.

Bydd Fables from a New World: the life and times of T. H. Thomas as imagined by Jennie Savage i’w gweld yn Oriel Davies, Drenewydd rhwng 5 Chwefror a 6 Ebrill 2011. Mae Jennie Savage yn cyfuno’r cyfoes a’r hanesyddol yn ei hymateb hynod i fywyd yr artist T. H. Thomas (1839-1915) a’i gasgliadau eang, gafodd eu rhoi i Amgueddfa Cymru ym 1915.

Mae Jennie Savage yn gwahodd ymwelwyr i gael blas ar waith T. H. Thomas, oedd yn rhan allweddol o’r ymdrech i lunio a hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol i Gymru. Yna, trwy wrthrychau, testun, sain a delweddau symudol, mae hi’n archwilio rhai o bynciau llosg a straeon Prydain Oes Fictoria – cyfnod moderneiddio cymdeithas.

Arianfollt fydd yr ail arddangosfa mewn partneriaeth gan Ganolfan Grefft Rhuthun ac Amgueddfa Cymru a bydd yn cael ei lansio ar 12 Chwefror 2011. Gosododd y project cyntaf, Casglu Cerameg Cyfoes yn 2005, ddarnau o waith celf gymhwysol o’r casgliad cenedlaethol ochr yn ochr â gwaith newydd gan yr un gwneuthurwyr. Ers hynny, mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi cael ei gweddnewid ac mae Amgueddfa Cymru wedi datblygu maes newydd o gasglu i ymateb yn uniongyrchol i’r nifer – a’r amrywiaeth – o wneuthurwyr sy’n gweithio yn y wlad heddiw, sef gofannu arian cyfoes.

Gair o ddychymyg y curadur Dr Elizabeth Goring yw teitl yr arddangosfa, Arianfollt:

“Roedd yn teimlo fel disgrifiad perffaith o’r cyflwr yr oeddwn i ynddi, wedi fy syfrdanu gan y medr, y creadigrwydd a’r ymroddiad sydd i’w gweld mewn gofannu arian cyfoes.”

Ei gobaith hi yw y bydd “y gwaith yn yr arddangosfa’n rhoi cymaint o bleser i’r ymwelwyr ag y cefais i o’r broses o ddewis a’r dethol ar ei chyfer, ac y byddwch chi hefyd yn teimlo effaith yr Arianfollt.”

Yn dilyn agoriad swyddogol Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar 14 Chwefror 2011, mae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynllunio arddangosfa mewn gofod pwrpasol newydd yn yr Amgueddfa yn yr haf. Bydd yr arddangosfa’n adrodd hanes diwylliannol Cymru drwy ein casgliadau cenedlaethol. Y bwriad yw dathlu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Wrecsam yn ogystal â dathlu 150 mlynedd o’r digwyddiad mwyaf yng nghalendr cymdeithasol Cymru.

Hefyd i’w gweld yn Wrecsam bydd gwybodaeth am Gasgliad y Werin Cymru – gwefan ddwyieithog sy’n adrodd hanes Cymru a’i phobl mewn ffordd gyfoes a rhyngweithiol: www.casgliadywerincymru.co.uk.

Meddai Michael Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglenni a Datblygu Amgueddfa Cymru sy’n arwain timau partneriaethau’r Amgueddfa:

“Mae partneriaethau effeithiol rhwng amgueddfeydd rhanbarthol a chenedlaethol yn hanfodol er mwyn sicrhau darpariaeth ardderchog i bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae mentrau dysgu a phrojectau cymunedol ehangach fel y rhai sydd gan Amgueddfa Cymru ar waith drwy’r wlad yn ffordd wych o rannu eitemau o’r casgliad cenedlaethol a’r arbenigedd sydd ynghlwm wrthynt.”

Mae Fables from a New World: the life and times of T. H. Thomas as imagined by Jennie Savage ac Arianfollt yn rhan o gynllun Celf Cymru Gyfan, sef cynllun partneriaeth celf weledol Amgueddfa Cymru. Dan nawdd hael Sefydliad Esmée Fairbairn, nod y cynllun yw cynyddu mynediad at y casgliad celf cenedlaethol drwy brojectau partneriaeth blaengar mewn canolfannau ar draws Cymru.

Diwedd

Nodiadau i olygyddion:

• Fables from a New World: the life and times of T. H. Thomas as imagined by Jennie Savage

5 Chwefror - 6 Ebrill 2011

Oriel Davies

www.orieldavies.org

• Arianfollt

12 Chwefror – 27 Mawrth 2011

Canolfan Grefft Rhuthun

www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

• Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Agoriad swyddogol 14 Chwefror 2011

Arddangosfa Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, haf 2011

www.wrecsam.gov.uk/heritage

• Yn ogystal â gweithio mewn partneriaeth ag amgueddfeydd rhanbarthol mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

• Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.