Datganiadau i'r Wasg

Dreigiau, defaid yn neidio a chennin Pedr yn rhoi lliw i'r Glannau y penwythnos hwn

Ar ddydd Sul 27 Chwefror rhwng 12 a 4pm, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu Dydd G?yl Dewi Sant gydag amrywiaeth o berfformiadau, cerddoriaeth, dreigiau, a defaid anferth yn neidio ar stilts fydd yn si?r o diddori’r holl deulu.

Rydyn ni’n annog ymwelwyr i alw draw yn eu gwisg Gymreig orau i fwynhau amrywiaeth o gelf a chrefft ac ymgolli mewn perfformiadau gan fyfyrwyr Coleg G?yr Abertawe a Chlwb Cerdd Cwm Tawe.

Bydd cyfle hefyd i weld sut mae llwyau caru Cymreig traddodiadol yn cael eu cerfio gydag arddangosiad byw gan Gymdeithas Cerfwyr Coed De Cymru, neu beth am bori drwy’r ffair grefftau fechan a phrynu cofrodd wedi’i ysbrydoli gan Gymru.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys gorymdaith ddreigiau arbennig dan arweiniad Arglwydd y Dreigiau. Mae’r ddraig goch ac aur fawreddog hon yn si?r o roi diddanwch ymarferol i blant, pobl ifanc ac oedolion wrth iddo wau’i ffordd drwy’r Amgueddfa.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r amrywiaeth o ddigwyddiadau sydd gennym ni i ddathlu Dydd G?yl Dewi Sant eleni,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau. “Bydd yn gyfle i’r teulu cyfan fwynhau hwyl am ddim wedi’i ysbrydoli gan Gymru drwy alw draw am hanner nawr neu drwy aros drwy’r prynhawn!”

Mae’r digwyddiad yn yr Amgueddfa hefyd yn cefnogi Wythnos G?yl Ddewi Dinas a Sir Abertawe (26 Chwefror i 6 Mawrth), dathliad wythnos o fywyd Nawddsant Cymru. Fel rhan o ddigwyddiadau ar draws y ddinas, bydd yr Amgueddfa yn cael ei goleuo’n goch llachar bob nos drwy gydol yr wythnos. Am ragor o fanylion ewch i www.saintdavidsday.com

Nodiadau i’r golygydd

Mae’r digwyddiad yn digwydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar ddydd Sul 27 Chwefror o 12-4pm.