Datganiadau i'r Wasg

Darganfyddiad newydd yn nirgelwch cerrig gleision Côr y Cewri

Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun chwilfrydedd a chryn ddadlau ers tipyn. Cafodd un math o garreg las, y ‘dolerit smotiog’, ei holrhain yn llwyddiannus i Fynydd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yn gynnar yn y 1920au.

Mae ffynhonnell y cerrig gleision eraill fodd bynnag – y rhyolitau (math o garreg) a’r tywodfeini prin wedi aros yn ddirgelwch, tan yn ddiweddar. Bellach mae daearegwyr yn Amgueddfa Cymru wedi pennu tarddiad un o’r mathau o ryolit, sydd hefyd yn gyfle i feddwl o’r newydd am sut allai’r cerrig fod wedi eu cludo i Gôr y Cewri.

Mae eu canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn rhifyn Mawrth 2011 o’r Journal of Archaeological Science.

Mae Dr Richard Bevins, Ceidwad Daeareg Amgueddfa Cymru, ynghyd â Dr Rob Ixer, Prifysgol Caerlyr a Dr Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth, wedi bod yn gweithio ar gyfansoddiad rhyolit y cerrig gleision, ac maent wedi dod i’r casglid ei fod o darddiad Cymreig. Drwy gyfuno technegau petrograffig cyffredin a dadansoddiad cemegol soffistigedig o’r samplau o Gôr y Cewri a gogledd Sir Benfro drwy ddefnyddio sbectromeg mas anwythiad abladiad laser cypledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, maen nhw wedi matsio un rhyolit penodol i ardal i’r gogledd o Fynyddoedd y Preseli ger Pont Saeson.

Mae’r cerrig gleision yn set nodedig o gerrig sy’n ffurfio cylch mewnol a phedol mewnol Côr y Cewri. Mae’r rhan fwyaf o waith archaeoleg yn y blynyddoedd diwethaf wedi cael ei seilio ar y gred fod gan ddyn y Cyfnod Neolithig reswm dros gludo’r cerrig gleision yr holl ffordd o orllewin Cymru i Gôr y Cewri, a bod ganddo’r gallu technolegol i wneud hynny.

Dywedodd Richard Bevins:

"Mae’r darganfyddiad diweddar hwn yn nodedig iawn oherwydd y gallai roi cliwiau i ni i ddeall sut a pham o bosibl y cludwyd y cerrig gleision Cymreig i Gôr y Cewri.

"Mae rhai wedi dadlau i ddyn gludo’r doleritau smotiog o dir uchel Mynydd y Preseli i lawr i’r arfordir yn Aberdaugleddau cyn eu cludo ar rafftiau ar hyd Môr Hafren ac afon Avon i Gôr y Cewri. Mae canlyniad ein hymchwil yn amau’r daith honno fodd bynnag, gan ei bod yn annhebygol eu bod wedi cludo cerrig Pont Saeson i fyny llethrau Mynydd y Preseli ac i lawr yr ochr draw i Aberdaugleddau. Os taw dyn oedd yn gyfrifol mae’n rhaid ystyried taith wahanol. Mae rhai’n credu fodd bynnag, taw gwaith rhewlifau yn ystod yr oes ia ddiwethaf a gludodd y cerrig, ac felly bydd yn rhaid ystyried darganfyddiad Pont Saeson yng nghyd-destun yr hypothesis hwn.

"Mae matsio’r garreg o Gôr y Cewri â brigiad cerrig yn Sir Benfro wedi bod yn dasg anodd iawn ond rwyf wedi edrych ar nifer fawr, os nad y mwyafrif o frigiadau cerrig ym Mynyddoedd y Preseli. Rydyn ni’n ffyddiog ein bod wedi canfod tarddiad un o’r rhyolitau o Gôr y Cewri am ein bod wedi gallu matsio ystod o nodweddion ac nid dim ond un agwedd. Rydyn ni nawr yn chwilio am darddiad y cerrig folcanig a thywodfeini eraill Côr y Cewri."

Ychwanegodd Mike Parker Pearson, Athro Archaeoleg Prifysgol Sheffield: "Mae hwn yn ddarganfyddiad hynod bwysig fydd yn rhyfeddu pawb sydd â diddordeb yng Nghôr y Cewri. Mae yn ein gorfodi i ailfeddwl ein syniadau am y daith a gymerodd y cerrig gleision i Gôr y Cewri ac yn esgor ar y posibilrwydd o ganfod nifer o’r chwareli y cloddiwyd y cerrig ohonynt. Mae’n gam arall tuag at ddatgelu pam fod y cerrig dirgel yma mor bwysig i bobl Neolithig."

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

- Diwedd -

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3175 neu ebostiwch: lleucu.cooke@museumwales.ac.uk.

Arthur Dafis, Swyddog Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth 01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk

Nodiadau i’r Golygydd:

Bydd y papur Stonehenge rhyolitic bluestone sources and the application of zircon chemistry as a new tool for provenancing rhyolitic lithics yn cael ei gyhoeddi yn y Journal of Archaeological Science, Cyfrol 38, Rhifyn 3, Mawrth 2011, Tudalennau 605-622.

http://www.elsevier.com/wps/find/journaldescription.cws_home/622854/description#description