Datganiadau i'r Wasg

Crefftau Fictoraidd yn ysbrydoli Gwneud a Thrwsio ar y Glannau

Feddylioch chi erioed am droi’r hen ffrâm lluniau yna’n gampwaith shabby-chic? Mae cyfle i chi wneud hynny yn y gweithdy Gwneud a Thrwsio’r mis hwn.

Gan ddwyn ysbrydoliaeth o thema decoupage, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn arbrofi ag amryw ddyluniadau a thechnegau gan ddefnyddio papur wal a ffabrig retro cyn defnyddio botymau a phrintiau stampiau rwber hynafol i addurno’r gwaith ymhellach.

“Mae’n gyfle gwych i droi eich llaw at rywbeth newydd a gwahanol,” meddai’r Swyddog Digwyddiadau Miranda Berry. “Mae hefyd yn ffordd wych i ailgylchu eitemau diangen yn y cartref. Dros y misoedd nesaf y themâu fydd llyfrau, planhigion a blodau a chrochenwaith, felly bydd digon o gyfle i alw draw a chymryd rhan!”

Y mis hwn bydd y gweithdy Gwneud a Thrwsio yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 5 Mawrth am 1.30pm.

Mae’r gweithdai yn addas i bobl 16 oed a h?n ac yn £3 y pen.

Mae nifer cyfyngedig o lefydd, felly archebwch ymlaen llaw ar 01792 638950.

Mae Gwneud a Thrwsio yn weithdy ailgylchu misol sy’n cael ei gynnal ar Sadwrn cyntaf pob mis.