Datganiadau i'r Wasg

Lansio Crêperie Ffrengig ar y Glannau

Dathlwch Ddydd Mawrth Ynyd (8 Mawrth) drwy ymweld â Crêperie y Glannau, atyniad newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae’r caffi wedi ei weddnewid yn hafan i bobl sy’n caru crempogau, gan gynnig cymysgedd o galettes sawrus a crêpes melys.

Mae’r dewis melys yn cynnwys sinamon a chwrens, Nutella a banana, Grand Marnier ac oren yn ogystal â’r lemwn a siwgr traddodiadol.

Os taw’r sawrus sydd at eich dant mae dewis o gaws Black Bomber a ham, madarch garlleg, sbigoglys, tiwna ac ?d melys, a Galette y Glannau – cymysgedd o eog wedi’i fygu, shibwns, salad roced, crème fraîche a sleisen o lemon ffres.

Wrth siarad am yr atyniad newydd, dywedodd Rheolwr Cyffredinol Crêperie y Glannau, Wesley Manson: “Mae’n grêt ein bod ni’n medru cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i ymwelwyr â’r caffi. Ein nod yw rhoi blas o Ffrainc i’r Amgueddfa drwy ddefnyddio cytew Llydewig traddodiadol gyda chynhwysion Cymreig – a’r cyfan wedi’i wneud yn ffres o’ch blaen.”

Dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa: “Mae agoriad Crêperie y Glannau wedi ein cyffroi ni i gyd a bydd yn ategu’r caffi presennol. Mae hefyd yn le perffaith i ymwelwyr sy’n pasio drwy’r amgueddfa gyfarfod a chymdeithasu.”

Mae Crêperie y Glannau ar agor bob dydd o 10am i 4.30pm ac yn gwerthu ystod eang o goffi arbenigol a detholiad o ddanteithion poeth ac oer yn ogystal â crêpes.