Datganiadau i'r Wasg

Golchi gwallt yn ganolbwynt yn y Glannau'r penwythnos hwn

Ydych chi erioed wedi pendroni sut mae creu’r swigod sebonllyd sy’n golchi’ch gwallt? Wel, dyma’ch cyfle chi i ddysgu mwy!

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn bersawr a sglein i gyd yn ystod dau ddiwrnod o weithdai arbennig o’r enw Creu eich siamp? eich hun.

Gan weithio gydag Alberto Culver, un o brif wneuthurwyr cynnyrch harddwch a gofal gwallt Prydain, bydd cyfle i wyddonwyr ifanc brofi eu medrau a chreu siamp? unigryw i fynd adre gyda nhw.

Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr roi prawf i’w ffroenau a’u llygaid drwy arddangosiadau rhyngweithiol, yn ogystal â darganfod sut mae ffatri gweithgynhyrchu lleol yn Abertawe yn cynhyrchu nwyddau adnabyddus ar draws y byd.

Bydd cyfres o stondinau rhyngweithiol yn arwain yr ymwelwyr drwy’r broses. Y stondin gyntaf fydd y stondin gymysgu ble byddan nhw’n potelu eu cynnyrch arbennig er mwyn ei gadw – bydd y themâu ar gyfer lliwiau a phersawr yn gysylltiedig â hanes a threftadaeth Cymru, er enghraifft dreigiau, glo a chopr. Yna byddan nhw’n symud ymlaen i’r stondin labelu er mwyn rhoi bathodyn ar y botel, ac yna stondin profi’r synhwyrau er mwyn samplo’r lliwiau a’r aroglau cyffrous.

“Rydyn ni’n falch iawn o gynnal y gweithdai hyn yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau,” meddai Simon Lewis o Alberto Culver. “Mae’n ffordd wych o annog ymwelwyr i ddarganfod mwy am y wyddoniaeth a’r dechnoleg sydd y tu ôl i gynnyrch bob dydd.”

Cynhelir Creu eich siamp? eich hun ar ddydd Sadwrn 12 a dydd Sul 13 Mawrth. Mae’n ddigwyddiad i’r teulu ac rydyn ni’n awgrymu cadw lle ymlaen llaw, ffoniwch (01792) 638950.

Bydd y gweithdai yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal drwy’r dydd am 11.30am, 12.30pm, 1.30pm a 2.30pm.