Datganiadau i'r Wasg

Bionic Ear a Bloodhound i ddiddanu disgyblion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y blynyddoedd diwethaf, bydd yr elusen genedlaethol Deafness Research UK yn dod â’r sioe deithiol arloesol Bionic Ear i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddiddanu disgyblion ysgolion lleol ar ddydd Iau 17 Mawrth.

Fel rhan o ymrwymiad yr Amgueddfa i’r Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Genedlaethol, nod y sioe yw dysgu plant pa mor gywrain yw eu clyw, sut y gallan nhw niweidio eu clyw a beth allan nhw ei wneud i’w warchod.

Bydd dros 400 o ddisgyblion o bob cwr o’r ddinas yn cymryd rhan mewn gweithdy fydd yn cynnwys clust fwyaf y byd. Yn ystod y sioe, bydd y cyflwynwr yn adeiladu model i ddangos gwahanol rannau’r glust. Mae’r model dros 22 troedfedd o daldra a 116 o weithiau’n fwy na clust ddynol gyffredin. Drwy’r arddangosiad ymarferol hwn bydd disgyblion yn dysgu sut yn union mae’r glust yn gweithio.

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu sioe Bionic Ear i’r Amgueddfa,” meddai’r Swyddog Addysg Ffurfiol, Mandy Westcott. “Bydd yn gyfle gwych i ni ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac i’r disgyblion ddysgu pa mor bwysig yw sain i gyfathrebu.

“Mae’r sioe yn gwneud cysylltiad â sbesimenau hanes natur yr Amgueddfa fydd yn rhoi cyfle i’r disgyblion feddwl am siâp clustiau ym myd natur a sut mae synhwyrau golwg a chlyw yn gweithio. Byddwn ni hefyd yn cyflwyno iaith arwyddion Prydain i’r disgyblion a sut mae’r Amgueddfa yn defnyddio hyn yn ei harddangosiadau i gyfathrebu hanes a threftadaeth i ymwelwyr.”

Yn ogystal â sioe’r glust, bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol dan arweiniad peirianwyr o Amgueddfa Abertawe a thîm o Ganolfan Addysg Bloodhound Cymru. Bydd disgyblion yn dod â rhai o sialensiau dylunio’r Car 1000mya Uwchsonig Bloodhound yn fyw wrth iddyn nhw adeiladu a rasio eu cysyniadau eu hunain mewn gweithgaredd ceir model prototeip llawn hwyl.

“Nod Antur Peiriannu Bloodhound yw hybu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i gael gwefr o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg,” meddai Dr Clare Wood o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe.

“Mae ein hymchwil peirianneg gyfrifiannol wedi chwarae rôl allweddol wrth gynllunio aerodynameg Car 1000mya Uwchsonig Bloodhound. Ein nod, ar y cyd â Chanolfan Addysg Bloodhound Cymru a Cynllun Addysg Peirianneg Cymru (EESW), yw trosglwyddo cyffro ac ysbrydoliaeth y project Prydeinig anhygoel hwn i bobl ifanc Cymru.”

Nodiadau i’r golygydd

Am ragor o wybodaeth am sioe Bionic Ear ewch i www.bionicearshow.org

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg ewch i http://www.britishscienceassociation.org/web/NSEW

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru.

· Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

· Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

· Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

· Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

· Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

· Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

· Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe