Datganiadau i'r Wasg

Cefnogaeth sylweddol yn sicrhau gwaith Hodgkin dros Gymru

Amgueddfa Cymru yn prynu print gan Howard Hodgkin dros y genedl

Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael Fenis, y Cyfnos, 1995, un o brintiau gwreiddiol mwyaf ysblennydd Howard Hodgkin, diolch i grantiau nawdd gan Gronfa Celf Gyfoes Nerys Johnson ac Ymddiriedolaeth Derek Williams.

 

Bu Cronfa Celf Gyfoes Nerys Johnson ac Ymddiriedolaeth Derek Williams yn hael iawn yn cyfrannu grant o £9,000 yr un, ac iddyn nhw y mae’r diolch y bydd y darn 16 rhan, ysgythriad ac acwatint wedi’i baentio, yn gaffaeliad hyfryd i’r gweithiau Fenisaidd eraill yng nghasgliad yr Amgueddfa, yn cynnwys artistiaid megis Canaletto, Guardi, Monet, Whistler, Sickert, Brangwyn a Piper. 

Cyn ei gaffael, doedd dim esiampl o waith Hodgkin yng nghasgliad Amgueddfa Cymru heblaw am un paentiad ar fenthyciad tymor hir o Ymddiriedolaeth Derek Williams, Amser Gwely, 1991-2001. Bydd Fenis, y Cyfnos yn ategu Amser Gwely, ond bydd hefyd yn ychwanegiad sylweddol i gasgliad cyfoes yr Amgueddfa.

Astudiodd Howard Hodgkin yn Ysgol Gelf Camberwell rhwng 1949 a 1950 ac yn ddiweddarach yn Academi Gelf Caerfaddon, ac aeth ymlaen i ennill bri rhyngwladol fel un o beintwyr a gwneuthurwr printiau pwysicaf Prydain ac un o’r lliwyddion mwyaf dyfeisgar a gwreiddiol. Ym 1984, cynrychiolodd Hodgkin Brydain yn Arddangosfa Gelf Eilflwydd Fenis ac enillodd Wobr Turner ym 1985. Mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn sawl arddangosfa fawr, roedd yr enwocaf yn yr Amgueddfa Fetropolitan, Efrog Newydd ym 1995, yn Oriel Tate, 2006 ac yn ddiweddar yn Moma, Rhydychen 2010. Mae ei baentiadau a’i brintiau yng nghasgliadau y rhan fwyaf o’r prif amgueddfeydd.

Dywedodd Beth McIntyre, Curadur Printiau a Darluniau, Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi medru caffael y print hwn gan Howard Hodgkin. Fel print mawr, bydd y gwaith yma yn ddarn oriel ysblennydd yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i Gronfa Gelf Gyfoes Nerys Johnson ac Ymddiriedolaeth Derek Williams am eu cefnogaeth, ac mae’n dangos pwysigrwydd y gwaith hwn.

“Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams hefyd yn darparu cefnogaeth sylweddol i ailwampiad orielau celf gyfoes Adain Orllewinol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – y cymal olaf wrth greu Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru, fydd yn agor yng Ngorffennaf 2011. Bydd gofod oriel arbennig ar gyfer casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams yn yr Adain Orllewinol newydd.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa. 

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Cronfa Celf Gyfoes Nerys Johnson yn cynorthwyo sefydliadau i gaffael gweithiau gan artistiaid byw sydd yn creu gwaith sy’n nodedig am ei ddefnydd dychmygus o liw. www.nerysjohnson.com.
  • Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn ymddiriedolaeth annibynnol a sefydlwyd yn enw’r diweddar Derek Williams, casglwr celf fodern Brydeinig o Gymru. Mae eu casgliad ar fenthyg dros y tymor hir i Amgueddfa Cymru ac mae caffaeliadau newydd yn ei ategu bob blwyddyn. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn rhoi cefnogaeth hael i waith Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i gaffael gweithiau wedi, gan alluogi’r Amgueddfa i ehangu ei chasgliad o gelf modern a chyfoes.