Datganiadau i'r Wasg

Ei Fywyd a'i Etifeddiaeth yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Fydd yr enw Derek Mathias Tudor Williams ddim yn gyfarwydd i bawb, ond dyma’r Cymro sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies. Bydd arddangosfa newydd i ddathlu cyfraniad Derek Williams i gelf yng Nghymru, Ei Fywyd a’i Etifeddiaeth: Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Gwener 25 Mawrth 2011.

Roedd Derek Williams (1929-1984) yn gasglwr pwysig ym myd celf Brydeinig fodern ac mae caffaeliadau newydd gan Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi ehangu ar y casgliad a adeiladodd. Mae’r casgliad cyfan ar fenthyciad tymor hir i Amgueddfa Cymru. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi marwolaeth y casglwr, ac mae’n gyfrifol am ofal, ehangu ac arddangos casgliad Derek Williams yn gyhoeddus. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn darparu cymorth hael i ychwanegu at y casgliad o weithiau wedi 1900 yn yn Amgueddfa Cymru yn ogystal â rhoi cymorth hael at y casgliad cerameg, sy’n ddatblygiad mwy diweddar gan yr Ymddiriedolaeth.

Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams hefyd wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i ailwampiad orielau celf gyfoes newydd Adain Orllewinol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – cymal olaf creu Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru fydd yn agor ym Mehefin 2011. Yn yr Adain Orllewinol newydd, bydd oriel arbennig ar gyfer casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams.

Dywedodd Melissa Munro, Curadur Celf Fodern a Chyfoes Derek Williams yn Amgueddfa Cymru:

"Mae’r arddangosfa hyfryd hon yn arddangos uchafbwyntiau casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams ac yn dangos eu cyfraniad unigryw i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru."

"Mae cefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Derek Williams hefyd wedi gweddnewid casgliad yr Amgueddfa o gelf yr ugeinfed ganrif ac mae’n gyfwerth â rhoddion celf Ffrengig gwych Gwendoline a Margaret Davies genhedlaeth ynghynt. "

Mae Amgueddfa Cymru yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones am ei gefnogaeth i Amgueddfa Gelf Genedlaethol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu £3.25 miliwn i greu Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru.

Dywedodd Mr Jones: "Mae’n holl bwysig bod gan Gymru gartref addas i arddangos celf bendigedig Cymru, gweithiau o’r casgliadau Cenedlaethol gwych yn ogystal a’r casgliadau sydd ar fenthyg drwy haelioni noddwyr fel Ymddiriedolaeth Derek Williams. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Ymddiriedolaeth am gydweithio yn agos ag Amgueddfa Cymru ac am eu cyfraniad ariannol sylweddol tuag at gost y gwaith ailwampio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd."

Bydd Melissa Munro yn rhoi sgwrs awr ginio ar y testun, Derek Williams: Caru casglu, ar ddydd Gwener 8 Ebrill am 1.05pm.

Hefyd bydd sgwrs awr ginio Rhodd Barhaus, Gwaith Ymddiriedolaeth Derek Williams Trust gan William Wilkins CBE, (llefarydd Ymddiriedolwyr Derek Williams) ar ddydd Gwener 15 Ebrill am 1.05pm.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.?

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.??

- Diwedd -

Nodiadau i Olygyddion:

Ymddiriedolaeth Derek Williams

Tirfesurydd Siartredig oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd oedd Derek Williams. Roedd yn hoff o gelf Brydeinig fodern, yn enwedig gwaith John Piper a Ceri Richards, a’u gweithiau hwy yw’r mwyaf niferus yn ei gasgliad. Ategir y rhain gan weithiau ffigurau mawr eraill yng nghelf Brydeinig canol yr ugeinfed ganrif megis Ben Nicholson, Henry Moore a L.S. Lowry.

Ymddiddorai Derek Williams mewn sawl maes yn cynnwys opera, ffotograffiaeth a golff. Dechreuodd brynu celf yn niwedd y 1950au. O Oriel Howard Roberts yng Nghaerdydd ac Oriel Marlborough yn Llundain y prynai fwyafrif ei weithiau. Cai bleser mawr o adeiladu ei gasgliad ac o’i arddangos yn ei gartrefi a’i swyddfeydd yng Nghaerdydd.

Yn dilyn marw Derek Williams ym 1984 casglodd ei Ysgutorion ei Ystad i greu Ymddiriedolaeth Derek Williams ym 1992. Mae'n nhw'n parhau i weinyddu'r Ymddiriedolaeth gyda chymorth Ymddiriedolwyr ychwanegol.

?

Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru

O 9 Mehefin 2011, bydd gan Gymru ei Hamgueddfa Gelf Genedlaethol ei hun yn arddangos ystod llawn casgliad y Genedl o gelf o safon ryngwladol o dan un to yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd cymysgedd yr Amgueddfa o gelf gain a chymwysedig, hanesyddol a chyfoes yn rhoi platfform gweladwy newydd i gelf yng Nghymru a chelf Cymru.

Bydd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn cynnwys orielau hanesyddol a ailwampiwyd yn 2008 a’r gofodau argraffiadaeth a chelf fodern a agorodd yn 2010. Bydd agor yr Adain Orllewinol ym mis Mehefin, fydd yn arddangos y goreuon o gelf yng Nghymru a thu hwnt wedi 1950 o Francis Bacon i Richard Long ac o Josef Herman i John Cale, yn cwblhau project gwerth £6m Amgueddfa Cymru.