Datganiadau i'r Wasg

Dyddiau Du gan John Cale

Arddangosiad cyntaf yng ngogledd Cymru o

 Dyddiau Du / Dark Days

gan John Cale

Amgueddfa Lechi Cymru 25.3.2011 - 3.4.2011

Bydd Dyddiau Du/Dark Days, arddangosfa gan y cerddor John Cale sydd wedi ennill clod rhyngwladol, yn cyrraedd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis y mis yma.  O’r 25.3.2011 – 3.4.2011- bydd y gosodiad -  sydd ar ffurf pedair episod ffilm dros pum sgrin –  yn cael ei arddangos yn ffowndri’r amgueddfa.

Adnabyddir Cale - aelod gwreiddiol o’r Velvet Underground - fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd sydd wedi arbrofi yn barhaus drwy gydol ei yrfa gan symud o un ffurf gelfyddydol i’r llall fel na ellir rhoi diffiniad union o’i ddull creadigol. Yn y gosodiad yma mae’n archwilio ei dreftadaeth Cymreig –  gan gynnwys nifer o olygfeydd pwysig iddo ar draws Cymru - o’r Garnant, yn Rhydaman ble cafodd ei eni i ddringo llethrau Chwarel Dinorwig yn Llanberis.

Wrth siarad am Dyddiau Du esboniodd John Cale:  Roedd rhai darnau o’n nghefndir nad oeddwn wedi delio a nhw oherwydd mad oeddwn wedi darganfod y maes gorau ar gyfer hynny. Y pwnc mawr i mi ydi sut y dois i golli fy iaith – a pham mai drwy’r Saesneg ydwi yn cyfathrebu ac nid trwy’r Gymraeg – sef y iaith roeddwn yn siarad yn blentyn. Sais oedd fy Nhad – a nid oeddwn yn gallu siarad ag ef tan oeddwn yn saith oed oherwydd i fy Nain wahardd yr iaith Saesneg o’r ty.

“Danfonodd fy ffilmiwr, sydd hefyd yn fynyddwr, darlun o Chwarel Dinorwic yn Llanberis, chwarel lechi oedd hefo canoed o risiau ynddo. Meddyliais y byddai’n ddifyr i ddringo’r grisiau mor gyflym a sy’n bosib a datgan “ Wnes id dim byd Mam” ar yr un pryd.

Wrth siarad am Dyddiau Du yn cyrraedd Llanberis, dywedodd Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Dr Dafydd Roberts: "Rydym wrth ein bodd taw dyma’r lle cyntaf yng ngogledd Cymru y caiff gwaith arobryn Cale ei arddangos. Bydd yn brofiad unigryw i’n ymwelwyr gan gwmpasu diwydiannu, celf weledol a rhoi golwg ar ddiwydiant, diwylliant a threftadaeth Gymreig."

Wedi ei gomisiynu yn wreiddiol gan Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Gwyl Bienalle  celf yn Fenis yn  2009, cyflwynwyd y gwaith i’r genedl drwy garedigrwydd hael yr artist a chefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bu Cyngor Celfyddydau Cymru gydweithio ag Amgueddfa Cymru i fynd â’r gwaith ar daith a’i gyflwyno i’r genedl a chafodd ei lwyfan cyntaf yng Nghymru yn amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn 2010. Wedi iddo cael ei dangos yn Amgueddfa Lechi Cymru, caiff ei harddangos yn haf 2011 fel rhan o agoriad yr orielau celf estynedig newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dywedodd David Alston, Cyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru: "Fel comisiynwyr y gwaith ar gyfer Arddangosfa Eilflwydd Celf Fenis, mae’n bleser gennym weithio yn awr gyda Amgueddfa Cymru ar yr arddangosiad hwn o’r gwaith yng Nghymru. Mae Cale yn artist o bwys rhyngwladol. Mae wedi creu gwaith aml-gyfrwng grymus sy’n ymdriniaeth ddofn o’i deimladau personol am Gymru a’i etifeddiaeth, ar ffurf lluniau symudol, synau, geiriau a cherddoriaeth syfrdanol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Rhaglenni a Datblygu Amgueddfa Cymru, Mike Tooby: "Mae’r darn hwn yn siwrnai ryfeddol i John Cale. Mae’n galluogi iddo rannu â’i gynulleidfa y modd y mae cof a phrofiad yn ei gynorthwyo i ddod i delerau â rhyw fath o ddychwelyd adref. Bydd y ffaith bod y gwaith yn ymuno â chasgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru yn galluogi iddo gael ei ddangos yn y dyfodol, i nifer o bobl eraill. Bydd yn tyfu’n gymhariaeth ar y cyd o deithiau personol i, ac o Gymru."

Bydd Dyddiau Du/Dark Days yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis o ddydd Gwener 25 Mawrth i ddydd Sul 3 Ebrill. Dangosir y gwaith yn ddyddiol o 10am-4pm.

DIWEDD

Gwybodaeth i’r wasg:

  • Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707
  • Am ragor o wybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru, cysylltwch â Sian James, Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau ar 02920 441344.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru:

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis / Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd / Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru / Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion / Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru / Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach / Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

John Cale

Ganwyd John Cale ar 9 Mawrth 1942 yn y Garnant yng Nghwm Aman – ardal oedd yn drwm dan ddylanwad diwydiant. Cymraeg yw ei famiaith.

Wedi canfod talent am chwarae’r piano, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Llundain a theithio i UDA i barhau â’i hyfforddiant cerddorol, diolch i gymorth a dylanwad Aaron Copland.

Daeth yn aelod gwreiddiol o’r Velvet Underground, ac erbyn hyn mae’n amlwg fel gerddor, cyfansoddwr ar gyfer ffilmiau a chynhyrchydd sawl albwm. Mae Cale wedi arbrofi yn barhaus drwy gydol ei yrfa gan symud o un ffurf gelfyddydol i’r llall fel na ellir rhoi diffiniad union o’i ddull creadigol.