Datganiadau i'r Wasg

Cymru fydd y wlad gyntaf i gynhyrchu cronfa ddata DNA ar gyfer pob planhigyn cynhenid sy'n blodeuo

Mae Amgueddfa Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o roi codau bar DNA i flodau Cymreig. Nod y project yw creu codau bar DNA (cyfresi unigryw o batrymau DNA – fel olion bysedd) ar gyfer pob un o'r 1,143 o blanhigion Cymreig sy'n blodeuo.

Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â'r Ardd Fotaneg Genedlaethol, sy'n arwain y project, a Phrifysgol Aberystwyth. Yn sail i'r project mae Herbariwm Cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r Curadur Tim Rich wedi dewis a gwirio'r deunydd ei hun er mwyn sicrhau yr adnabyddir y sbesimenau'n gywir. Cymerir samplau bach o feinwe deilen, tynnir y DNA a chynhyrchir cyfres dau enyn er mwyn rhoi'r cod bar unigryw. Yna, caiff y cyfresi a delweddau eu rhoi ar wefan ryngwladol BOLD (Barcoding of Life) ble maent ar gael i'w gweld.

Gellir defnyddio'r codau bar mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft gellir canfod pa flodau mae gwenyn yn ymweld â nhw; pennu pa rywogaethau a ddefnyddir mewn meddyginiaethau llysieuol neu ganfod gwreiddiau pa goed neu lwyni sy'n blocio draeniau.

Rydym ni'n gobeithio gorffen y project erbyn diwedd mis Mai a byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau mewn cyfnodolyn gwyddonol safonol.