Datganiadau i'r Wasg

Rhestr lawn o ddigwyddiadau hwyliog dros y Pasg!

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn addo gwledd o weithgareddau llawn hwyl yn Ebrill, gyda digon i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Bydd y plant yn si?r o fwynhau’r cwningod a’r cywion sy’n dod i aros o 16 Ebrill hyd 2 Mai o Fferm Gymunedol Abertawe. Gall ymwelwyr alw draw i’w gweld nhw yn ogystal â dod i deall mwy am gadw cwningod drwy glywed sgwrs gan Chris Jones, Rheolwr y Fferm ar ddydd Sul 17 Ebrill am 2.30pm.

Yna, gwisgwch eich clustiau cwningen a pharatowch am Helfa Wyau Pasg Fawr yr Amgueddfa* ar ddydd Gwener y Groglith (22 Ebrill, 11.30am a 2.30pm) a dydd Llun y Pasg (25 Ebrill, 11.30am a 2.30pm). Bydd y Gwningen Basg yma i helpu’r teuluoedd i hela ym mhob twll a chornel o’r orielau i ganfod yr wyau lliwgar cudd. Bydd cyfle i’r plant hefyd wneud clustiau cwningen a chwpan ?y eu hunain er mwyn eu defnyddio i hawlio eu siocled masnach deg.

Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys Planhigion ac Anifeiliaid y Gwanwyn (16-21 a 26-29 Ebrill, 1.30pm), gweithdy celf a chrefft galw draw, yn ogystal â dwy ffilm ar thema cwningod ar ddydd Sul 24 Ebrill a dydd Sul 1 Mai am 2.30pm.

I gloi’r bythefnos, gall ymwelwyr droi eu llaw at Wasgu Planhigion, a gwneud printiau o fyd natur gan ddefnyddio dull sy’n ganrifoedd oed (30 Ebrill i 2 Mai, 2-4pm).

Ac nid dyna’r cyfan! Beth am alw draw i ymlacio a mwynhau paned o goffi neu flasu crêpe neu galette yn Crêperie newydd y Glannau.

“Rydyn ni’n falch iawn o’n pecyn gweithgareddau’r Pasg hwn,” meddai Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa. “Mae rhywbeth yma at ddant pawb – o gymryd rhan yn ein helfeydd wyau Pasg i wylio ffilmiau teuluol. Mae’n lle gwych i archwilio hanes diwydiant a blaengaredd Cymru yn ogystal â mwynhau gweithgareddau G?yl y Pasg am ddim!”

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r gweithgareddau a restrir, cysylltwch â (01792) 638950 neu ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk

* Rhaid archebu lle ar gyfer Helfa Wyau Pasg Fawr yr Amgueddfa (01792) 638950.

DIWEDD

Croeso i aelodau’r wasg – cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970 os ydych yn bwriadu mynychu.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe