Datganiadau i'r Wasg

Ai William neu Kate yw'ch enw chi? Dathlwch gyda ni!

Ai William neu Kate yw’ch enw chi? Os felly, mae Big Pit yn awyddus i’ch helpu i ddathlu diwrnod arbennig y pâr hapus trwy gynnig gostyngiadau y penwythnos hwn.

Bydd Big Pit yn dathlu priodas Tywysog William a Kate Middleton y penwythnos hwn trwy gynnig diod boeth am ddim gyda phob pryd a brynir gan unrhyw William neu Kate yn yr Amgueddfa.

Meddai Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Pwll: “Gallwch ymweld â Big Pit am ddim beth bynnag, ond roeddem yn awyddus i ddathlu’r achlysur hapus trwy groesawu pawb o’r enw William neu Kate a’u helpu i fwynhau eu gwledd arbennig eu hunain yn ein Ffreutur.

“Bydd y cynnig ar gael o ddydd Gwener 29 Ebrill i ddydd Sul 1 Mai; rydyn ni'n cydnabod y bydd pobl eisiau mwynhau diwrnod ychwanegol gyda’u teulu dros y penwythnos hir, a Big Pit yw’r man delfrydol i dreulio amser gwerthfawr gyda’r teulu.”

Mae Big Pit ar agor gydol penwythnos G?yl y Banc, 9.30am-5pm, a bydd teithiau dan ddaear ar gael rhwng 10am a 3.30pm bob dydd. Mae mynediad am ddim.