Datganiadau i'r Wasg

Meddyliwch am fad achub?

Meddyliwch am fad achub allai wrthsefyll tywydd garw Môr Hafren?

Meddyliwch am fad achub sydd wedi arbed 4,717 o fywydau?

A’r ateb? RIB – Bad Achub Chwyddadwy Corff Anhyblyg – ac maen cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nawr.

Rhodd i’r Amgueddfa gan Goleg Byd Unedig yr Iwerydd, Castell Llanddunwyd, ger Llanilltud Fawr yn Ne Cymru ydyw’r RIB ac mae’n ffrwyth project a arweiniwyd gan Desmond Hoare, cyn Swyddog yn y Llynges Frenhinol a phrifathro cyntaf y coleg, ynghyd â staff a disgyblion aeth ati i greu cwch chwyddadwy sefydlog allai wrthsefyll tywydd garw Môr Hafren a chael ei lusgo dros raean bras blaendraeth y coleg.

Tarddiad y cysyniad gwreiddiol oedd y Psychedelic Surfer, cwch corff anhyblyg a adeiladwyd gan y myfyrwyr ar gyfer y Ras Cychod P?er o Amgylch Prydain ym 1969, ac a orffennodd yn bedwaredd ar bymtheg – ddim yn ffôl am gwch a adeiladwyd mewn pythefnos!

Y coleg, castell mewn gerddi prydferth ger glan y môr, oedd sylfaenydd y mudiad UWC (Coleg Byd Unedig gynt), ac mae tua 350 o fyfyrwyr o 70 gwlad wahanol yn byw ac yn dysgu yno bob blwyddyn. Mae dysgu a darparu gwasanaethau yn y gymuned yn rhan allweddol o’u maes llafur – yn cynnwys arbed bywydau ar y môr.

Yn dilyn agor gorsaf fad achub ar gampws glan môr y coleg dros 40 mlynedd yn ôl, mae myfyrwyr ac aelodau staff wedi bod yn rhan o griwiau’r badau. Mae’r trefniant yn sicrhau criwiau brwdfrydig a profiad gwerthfawr i fyfyrwyr.

Wedi profi sawl bad arbrofol, datblygwyd y B – Class Atlantic Inshore Lifeboat, oedd yn anrhydeddu’r ysgol yn ei enw. Dechreuodd fflyd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub ddefnyddio’r bad ym 1972 ac erbyn Awst 1993 roedd wedi cael ei lansio 15,601 o weithiau ac wedi arbed 4,717 o fywydau.

Yr arloesiad olaf oedd cael gwared â’r trawslath – y byrddau ôl sy’n cadw’r d?r allan mewn cwch cyffredin. Gyda’r RIB, roedd gwaredu’r trawslath yn caniatáu i’r d?r lifo allan o gefn y cwch – a dyma’r canlyniad, yr Atlantic 21.

Cafodd yr RIB sy’n cael ei arddangos yma ei adeiladu tua 2001 yng Ngholeg yr Iwerydd gan y staff a’r myfyrwyr ac mae’r corff wedi’i wneud o fowld gwydr ffibr yr Atlantic 21 gwreiddiol.

Wrth siarad am y caffaeliad newydd, dywedodd y Curadur Diwydiant Modern a Chyfoes, Ian Smith: “Yn yr Amgueddfa, rydyn ni’n adrodd hanes diwydiant a blaengaredd yng Nghymru – mae’r cwch chwyddadwy corff anhyblyg yn esiampl berffaith o arloesi o’r fath. Rydyn ni’n falch o gael arddangos y bad achub byd-enwog yma ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Goleg Byd Unedig yr Iwerydd am y rhodd. Bydd y gwrthrychau a gasglwn ni heddiw yn galluogi i genedlaethau’r dyfodol fwynhau hanes treftadaeth Gymreig.”

Wrth fynegi ei bleser wrth weld y cwch yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa, dywedodd Paul Motte, Prifathro Gweithredol Coleg Byd Unedig yr Iwerydd: “Mae cysylltiad y coleg â dyfeisio a datblygiad cynnar yr RIB yn deyrnged i’n rhagflaenwyr ac rydyn ni’n falch bod y model cynnar hwn i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae datblygiad y cwch ar draws y byd, yn enwedig fel bad achub, yn rhywbeth y gall y coleg ymfalchïo ynddo.”

Roedd David Sutcliffe yn un o staff gwreiddiol y Coleg ym 1962, ac mae bellach wedi adrodd y stori yn llawn yn The RIB: the Rigid-Hulled Inflatable Lifeboat and its Place of Birth - the Atlantic College. Gellir prynu llyfrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac ar-lein yn www.atlanticcollege.org.

Bydd yr RIB yn cael ei arddangos yn Oriel Torri Tir Newydd yr Amgueddfa tan yr haf.

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am ragor o wybodaeth am Goleg Byd Unedig yr Iwerydd, cysylltwch ag Alexandra Smith, Rheolwr Marchnata ar 01446 799278 neu ewch i www.atlanticcollege.org

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe