Datganiadau i'r Wasg

Dydd Gwener y 13eg ac mae Nos yn yr Amgueddfa yn ôl!

Harry Potter fydd thema’r digwyddiad a bydd yn fwrlwm o arbrofion gwyddonol hudolus, taith ddirgel o amgylch yr orielau, consurio crefftus a bydd ymweliad hefyd gan ddau ffrind pluog o Ganolfan Heboga Cymru - Tylluan Ewropeaidd, yr un brid â Hedwig, anifail anwes Harry, a Thylluan yr Eira ifanc.

Bydd difyrrwch dewiniol y noson hefyd yn cynnwys crefftau creadigol lle gall ymwelwyr wneud cwpan addurnedig origami a blwch popcorn wedi’i ysbrydoli gan dylluanod. Bydd cyfle hefyd i adeiladu hetiau dewin neu wialen hud gan ddefnyddio KNEX neu gallan nhw reoli Underground Ernie, rheilffordd fodel rhyngweithiol.

Bydd y noson yn gorffen gyda dangosiad atmosfferig o ffilm Harry Potter and the Philosopher’s Stone yn Oriel y Warws – addasiad o’r nofel gyntaf yn nghyfres Harry Potter gan yr awdur J.K. Rowling.

Bydd siop losin arbennig ar agor drwy gydol y ffilm yn gwerthu cacenni bychan i wrachod a dewiniaid a pwnsh hud.

Bydd y gweithgareddau’n dechrau am 6pm gyda mynediad yn £2yp. Rhaid archebu ymlaen llaw, ffoniwch 01792 638950 i archebu’ch lle.

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru.

• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

• Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

• Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

• Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe