Datganiadau i'r Wasg

Hanes Cymru yn destun sgwrs wych dros ginio

Bydd wythnos o Sgyrsiau Dros Ginio yng Ng?yl Llenyddiaeth a Chelfyddydau Gelli Gandryll yn croesawu’r cyhoedd i ymuno mewn cyfres o drafodaethau bywiog a gwybodus. Bydd Hanes Cymru-History Wales, partneriaeth o sefydliadau treftadaeth gorau Cymru, yn darparu llwyfan i siaradwyr arbenigol o sectorau treftadaeth, celfyddyd a phrifysgol i drafod, cwestiynu a dathlu hanes yn y Gymru fodern. Bydd y testunau’n cynnwys twristiaeth ddiwylliannol, adfywiad economaidd ac addysg wyddonol yng Nghymru. 

Mae Sgyrsiau Dros Ginio Hanes Cymru-History Wales yn rhad ac am ddim, ac yn cael eu cynnal am 1yh pob dydd, o ddydd Sul 29ain Mai tan ddydd Sul 5ed Mehefin. Gallwch ddod o hyd i ni ar y stondin Hanes Cymru-Wales History (Rhif: 12-14) yng Ngelli Gandryll. Mae gwahoddiad i ymwelwyr ddod i ymdrochi yn yr amgylchedd bywiog ac anffurfiol, ac i ymuno yn y sgwrs dros frechdan.

 

Bydd pob math o arbenigwyr hanes a diwylliant Cymru yn siarad yn yr achlysur drwy gydol yr wythnos gan gynnwys; Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr Cadw, fydd yn archwilio sut y gall cymeriad hanesyddol gyfrannu tuag at adfywiad yng Nghymru; bydd Jonathan (Jo) Jones, Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cynulliad Cymru (Cyfarwyddwr Croeso Cymru) yn arwain trafodaeth ar rôl treftadaeth wrth hybu apêl twristiaeth Cymru.

 

Bydd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn trafod y prosiect cyffrous £20 miliwn Creu Hanes – Making History sydd â’r bwriad o drawsnewid profiad ymwelwyr yn St Fagans tra bod Tom Lloyd, awdur toreithiog ar dai hanesyddol yng Nghymru, yn edrych ar rôl gyfoes tai hanesyddol Prydain.

 

Dywedodd Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr Cadw, “Mae Hanes Cymru-History Wales yn bartneriaeth wych rhwng sefydliadau treftadaeth yng Nghymru ac yn un yr ydym yn gobeithio bydd yn cyseinio ag ymwelwyr yng Ngelli Gandryll eleni. Mae’r Sgyrsiau Dros Ginio yn ddatblygiad cyffrous a gobeithio y bydd yn ysgogi trafodaethau a dysgu ymwelwyr am y syniadau diweddaraf am bolisïau a’r camau gweithredol sy’n cael eu cymryd er mwyn sicrhau amgylchedd hanesyddol bywiog a chynaliadwy i Gymru.”

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, “Mae Amgueddfa Cymru wrth ei bodd i gael bod yn rhan o bartneriaeth Hanes Cymru-History Wales yng Ng?yl Gelli Gandryll eleni. Rwy’n edrych ymlaen at gael cymryd rhan a gwrando ar yr holl destunau cyffrous fydd yn cael eu trafod yn y sgyrsiau amser cinio. Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr yn cymryd rhan yn y trafodaethau am ddyfodol St Fagans yn ogystal â dysgu mwy am gasgliad celfyddydau cenedlaethol Cymru.”

 

Dywedodd Huw Bowen, Athro Prifysgol Abertawe sydd yn Gynullydd Ymchwil Hanes Cymru, “Rydym yn falch iawn o gael cymryd rhan yn y gyfres o sgyrsiau amser cinio. Mae’n hynod bwysig fod ymchwil haneswyr academaidd yn cael ei gyfleu i gynulleidfaoedd cyhoeddus mewn cymaint o ffyrdd ag sy’n bosib. Fel â phob trafodaeth hanesyddol, rydym yn gobeithio y bydd ein sgyrsiau yng Ngelli Gandryll yn wybodus, difyr, ac, yn fwy na dim, yn ysgogi’r meddwl.”

 

Dywedodd Nick Way, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Historic Houses Association, “Mae’r HHA yn falch iawn o gael ymuno â’r bartneriaeth yma i ganolbwyntio ar werth hanes Cymru fel y caiff ei gydnabod drwy’r byd. Mae ein haelodau yn gweithredu fel ceidwaid amrwymau enfawr treftadaeth adeiledig. Ar hyd a lled y DU mae ganddynt fwy o dai yn agored i’r cyhoedd na sydd gan holl gyrff cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda'i gilydd, felly mae’n naturiol i ni archwilio â Hanes Cymru-History Wales a chyrff sy’n cael eu noddi gan Gynulliad Cymru, i sut all pob agwedd o dreftadaeth weithio er lles pobl Cymru.”

 

Mae Hanes Cymru-History Wales yn bartneriaeth rhwng Cadw, Amgueddfa Cymru, Historic Houses Association ac Ymchwil Hanes Cymru. Drwy’r bartneriaeth, mae pob sefydliad yn gobeithio gwarchod a hyrwyddo amgylchedd hanesyddol Cymru, ac annog pobl i fwynhau a dysgu am storïau’r bobl a greodd Cymru. Gobaith Hanes Cymru-History Wales yw tynnu sylw at sut all y gorffennol gyfrannu er lles pobl Cymru heddiw, yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

 

 

Mae’r rhaglen lawn o’r digwyddiadau yn cynnwys (i gyd yn dechrau am 1yh):

 

Dydd Sul 29ain Mai                            Tom Lloyd

                                                                Cadeirio: Sir Brooke Boothby

Pwnc: Plastai Cymreig: Beth maent yn ei olygu heddiw?

 

Dydd Llun 30ain Mai:                        David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

Cadeirio: Dr Keir Waddington, Pennaeth Hanes, Prifysgol Caerdydd

                                                                Pwnc: Creu Hanes-Making History, St Fagans

 

Dydd Mawrth 31ain Mai:                 Marilyn Lewis, Cyfarwyddwr, Cadw

                                                                Cadeirio: Rhodri Ellis Owen

Pwnc: Adfywiad a Threftadaeth

 

Dydd Mercher 1af Mehefin:         Oliver Fairclough, Ceidwad Celfyddyd, Amgueddfa Cymru-National Museum Wales

                                                                Cadeirio: Trevor Fishlock

                                                                Pwnc: Casgliad Davies a’r Amgueddfa Genedlaethol

 

Dydd Iau 2il Mehefin:                     Dr Robin Barlow, Prifysgol Aberystwyth

                                                                Cadeirio: Prof. Huw Bowen

                                                                Pwnc: Rhyfel a’i effeithiau yn y Gymru fodern

 

Dydd Gwener 3ydd Mehefin:        Prof. Peter Stead

                                                                Cadeirio: Yr Athro Huw Bowen

                                                                Pwnc: Chwaraeon, hanes a hunaniaeth yng Nghymru

 

Dydd Sadwrn 4ydd Mehefin:         Dr Iwan Morus, Prifysgol Aberystwyth

                                                                Cadeirio: Dr Adam Mosley, Prifysgol Abertawe

                                                                Pwnc: Hanes a Gwyddoniaeth yng Nghymru

 

Dydd Sul 5ed Mehefin:                   Jo Jones, Cyfarwyddwr, Croeso Cymru  

                                                                Cadeirio: Rhodri Ellis Owen

                                                                Pwnc: Twristiaeth a Threftadaeth

 

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhodri Ellis Owen, Cambrensis Communications ar 029 20 257075 neu rhodri@cambrensis.uk.com. Mae Hanes Cymru-History Wales ar Facebook ac @HanesCymru ar Twitter.

 

Nodiadau i’r Golygydd:

 

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod yw hyrwyddo cadwraeth a gwerthfawrogiad o amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae hyn yn cynnwys adeiladau hanesyddol, henebion, parciau a gerddi hanesyddol, tirluniau ac archeoleg danddwr. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cadw: www.cadw.wales.gov.uk <http://www.cadw.wales.gov.uk/>.

Mae Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol hyd a lled Cymru. Y saith amgueddfa yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; St Fagans: Amgueddfa Hanes Cenedlaethol; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: yr Amgueddfa Lo Cenedlaethol, Blaenafon; yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Drefach Felindre; yr Amgueddfa Lechi Cenedlaethol, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae mynediad i bob amgueddfa yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Historic Houses Association

Mae HHA yn cynrychioli 1500 o dai hanesyddol, cestyll a gerddi sy’n eiddo preifat drwy’r DU. Maent yn adeiladau rhestredig neu’n erddi dynodedig, fel arfer Gradd I neu II*, ac yn aml yn rhagorol. Mae llawer yn cael eu hystyried fel symbolau eiconig o dreftadaeth unigryw Prydain. Mae oddeutu 300 o dai HHA yn agored i’r cyhoedd i ymweld am y dydd, gan ddenu, rhyngddynt, tua 14 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol. Mae eraill yn agor ar gyfer ymweliadau arbennig, priodasau, digwyddiadau corfforaethol neu wyliau byr.

 

Mae Ymchwil Hanes Cymru (YHC) yn bartneriaeth ymchwil ar y cyd a sefydlwyd yn 2009 rhwng Adrannau neu Ysgolion Hanes a/neu Hanes Cymru ac Archeoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, a Phrifysgol Abertawe. Mae’n cynnwys 110 o ymchwilwyr academaidd a nifer tebyg o fyfyrwyr ymchwil ôl-radd, sy’n ei wneud yn y gymuned fwyaf o haneswyr tu allan i Rydychen, Llundain a Chaergrawnt. Mae YHC yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau, digwyddiadau, a phrosiectau, ac yn ddiweddar cynhyrchodd gyfres o draethodau ‘Heroes and Villains’ ar Hanes Cymru a gyhoeddwyd yn y Western Mail.