Datganiadau i'r Wasg

Achubwyr o Loegr yn hyfforddi yng Nghymru

Cynhaliwyd cyfres o ymarferion hyfforddi ar gyfer timau Achub Mwynfeydd yn Big Pit: Amgueddfa lofaol Cymru ym Mlaenafon yr wythnos hon.

Dywedodd yr arbenigwr Achub Mwynfeydd a rheolwr yr ymarferion, Brian Robson: “Mae ein timau achub yn gweithio yn y mwynfeydd calch yn ardal Caerfaddon a Corsham yng Ngwlad yr Haf a Wiltshire ac mae’r ymarferion yma yn Big Pit yn brofiad da iddyn nhw gan ei bod yn hanfodol eu bod yn medru gweithio mewn pyllau, diwylliannau a sefyllfaoedd gwahanol.

“Bydd hyfforddi yn Big Pit yn rhoi dealltwriaeth well iddyn nhw o sefyllfaoedd achub mewn pwll glo.”

Ychwanegodd Paul Green, Dirprwy Reolwr Big Pit: “Rydyn ni’n hapus iawn bod y timau yma yn defnyddio ein cyfleusterau ar gyfer eu hyfforddiant yr wythnos hon, gan ein bod ni’n dal i gael ein cyfri’n bwll glo. Mae nifer o staff yma sydd wedi derbyn hyfforddiant Achub Mwynfeydd, ac mae’n ddefnyddiol i’n staff ni a thîm achub gorllewin Lloegr rannu profiadau.”

Mae Big Pit ar agor i’r cyhoedd bob dydd ac yn olwg unigryw ar y diwydiant glo a chymunedau glofaol ar draws de Cymru.