Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau yn cefnogi g?yl ddawns flynyddol

Bydd unrhywun sy’n hoffi dawnsio yn si?r o fwynhau’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe y penwythnos nesaf.

Mae Taliesin Dance Days yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Gorffennaf lle gellir gweld amrywiaeth o ffurfiau dawns gan gynnwys perfformiadau rhyngwladol a thalent lleol grwpiau dawns cymunedol Abertawe.

Mae rhwydwaith byd-eang o wyliau dawns mewn lleoliadau trefol yn sail i Dance Days, fydd yn cael ei gynnal ar Sgwâr y Castell ac yn yr Amgueddfa ac yn lwyfan i dros 50 o berfformiadau dawns.

Bydd County Youth Dance Company o Gymru yn perfformio yn yr Amgueddfa, ac yn arbrofi â photensial yr orielau i greu darn fydd yn ymateb i’r casgliadau, yn ogystal â Rachael Mossom, Meibion, Duet for 3, Ballet Nimba a Criw Cymru.

“Mae’n bleser gennym gefnogi g?yl Dance Days Taliesin eleni,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Mae cymryd rhan yn yr ?yl; yn rhoi cyfle i’r perfformwyr ddefnyddio gofodau’r Amgueddfa mewn ffyrdd gwahanol a diddorol, a chael eu hysbrydoli i greu gan yr arddangosfeydd a’r gwrthrychau.”

Esboniodd Sybil Crouch o Ganolfan Gelfyddydau Taliesin y bwriad y tu ôl i’r ?yl: “Mae Taliesin wedi datblygu cynulleidfa ddawns dros y 14 mlynedd ddiwethaf ac rydyn ni’n edrych o hyd am bethau newydd i’w gwneud ac i godi’r diddordeb mewn dawns yn y ddinas. Cynlluniwyd Dance Days er mwyn adeiladu ar ein hymrwymiad i roi llwyfan i ddawns gyfoes, a’n hymrwymiad i waith rhyngwladol a datblygu cynulleidfaoedd newydd.

“Eleni, rydyn ni’n gweithio’n agosach gyda’n partneriaid yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, sy’n ein galluogi i roi llwyfan i fwy o gwmnïau yn yr adeilad ac ar dir yr Amgueddfa, ac mae Dinas a Sir Abertawe yn darparu llwyfan i ni ar Sgwâr y Castell – fydd yn rhoi proffil uchel i’r perfformiadau yno. Wrth symud o leoliad theatrig a gweithio gyda grwpiau dawns cymunedol yn ogystal ag artistiaid sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, gallwn annog gwir awch am ddawns yn Abertawe. Gobeithio y bydd haul y penwythnos diwethaf yn dychwelyd, ond mae digon o berfformiadau dan do rhag ofn!”

 

Am ragor o wybodaeth am Dance Days ewch i www.taliesinartscentre.co.uk neu cysylltwch â Stella Patrick, y Rheolwr Marchnata ar 01792 602429.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.