Datganiadau i'r Wasg

Cynllun achub bywyd yn cyrraedd dyfnderoedd treftadaeth Cymru!

Mae cynllun achub bywyd newydd yn nyfnderoedd amgueddfa lofaol fwyaf blaenllaw Cymru yn anrhydedd o fath gwahanol i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.

 Yn dilyn gosod Cynllun Diffibrilio Mynediad y Cyhoedd (PADS) ar gopa’r Wyddfa yn 2010, mae’r Ymddiriedolaeth eleni wedi ymestyn ei chynllun achub bywyd gannoedd o droedfeddi o dan y ddaear.

Cydweithiodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru â staff yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru er mwyn gosod safle PADS newydd.

Gwisgodd rheolwr PADS Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gerard Rothwell, yr helmed a’r lamp enwog er mwyn disgyn i grombil y ddaear i lansio’r safle newydd gyda Dirprwy Reolwr yr Amgueddfa, Paul Green.

Mae’r safle’n amgueddfa genedlaethol arobryn sy’n dal i gadw naws y dyddiau pan oedd yn bwll glo gweithredol, pan oedd y twnneli ymhell o dan rostir grugog Blaenafon yn atseinio i s?n y glowyr wrth eu gwaith.

Mae’r atyniadau yn cynnwys y daith enwog 90 metr i lawr y siafft i weld yr amodau gwaith tanddaearol, a dyma leoliad cynllun Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae PADS yn galluogi staff yr Amgueddfa i ddefnyddio eu diffibriliwr i gynorthwyo pobl sy’n dioddef trawiad ar y galon. Mae’r peiriannau yn hawdd i’w cyrraedd i aelodau’r tîm, fel y bydd cylchoedd achub o amgylch pwll nofio.

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi hyfforddi dros 4000 o wirfoddolwyr i ddefnyddio’r cyfleusterau PADS ar draws Cymru, sydd wedi’u gosod mewn gorsafoedd trenau, canolfannau hamdden a hyd yn oed ar gopa’r Wyddfa. Mae’r staff yn gweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu offer a hyfforddiant.

Derbyniodd pob un o wirfoddolwyr Big Pit bedair awr o hyfforddiant er mwyn galluogi iddynt ddefnyddio’r peiriant achub bywyd drwy sioc drydanol yn ogystal â darparu sgiliau cynnal bywyd sylfaenol.

Esboniodd Gerard Rothwell: “Roedden ni’n sefyll ar gopa’r Wyddfa y llynedd yn lansio safle PADS. Eleni rydyn ni’n sefyll yn ddwfn yng nghrombil y ddaear ond yr un yw’r bwriad. Mae’r safleoedd yma yn achub bywydau ac roedd yn bleser gweithio gyda’r staff yma i wireddu’r cynllun.

“Rydyn ni’n parhau i chwilio am safleoedd sydd â niferoedd uchel o ymwelwyr er mwyn gosod yr offer PADS yno, boed y ar gopa mynydd neu ar waelod pwll glo! Mae’n bleser gennyf ddweud bod y staff yma wedi gweithio’n galed ar eu hyfforddiant ac y byddant yn barod i gynorthwyo unrhywun mewn angen.”

Ychwanegodd Paul Green, Dirprwy Reolwr Big Pit: “Mae bron i 160,000 o bobl yn ymweld â Big Pit bob blwyddyn ac mae gosod y diffibriliwr tanddaearol  yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i staff ac ymwelwyr. Dyma’r tro cyntaf i beiriannau diffibrilio gael eu gosod danddaear mewn pwll glo yn y DU, ac rydyn ni’n falch o fod wedi gallu cydweithio â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’r Mines Inspectorate i gwblhau’r cynllun a diogelu’r cyhoedd.”