Datganiadau i'r Wasg

Y Maes Glo Angof?

Testun rhifyn diweddaraf Glo, cylchgrawn hanes gwerin Big Pit, yw’r diwydiant glo yng ngogledd Cymru, a bydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod eleni.

Mae staff Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru wedi bod yn gweithio â chymunedau yng ngogledd Cymru i adrodd hanes y cymunedau glo y rhanbarth. Canlyniad y gwaith ymchwil yw rhifyn diweddaraf Glo: Y Gogledd-ddwyrain, Y Maes Glo Angof? Fydd yn cael ei lansio’n ffurfiol gan Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar stondin Amgueddfa Cymru ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Mercher 3 Awst am 11am.

Dywedodd Ceri Thompson, Curadur Glo Amgueddfa Cymru: “Mae gweithio gyda chymunedau gogledd Cymru wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Mae gennym wybodaeth helaeth am ddiwydiant glofaol de Cymru yma yn Big Pit, ond roedd y pellter yn broblem wrth weithio â chymunedau gogledd Cymru. Drwy gydweithio ag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Glowyr Gogledd Cymru a grwpiau cymunedol eraill, fe lwyddon ni i baratoi casgliad o straeon diddorol, oedd weithiau’n drasig, o faes glo gogledd Cymru. Mae ein dyled yn fawr i bawb a gyfrannodd neu a gynorthwyodd i’n hymchwil ar gyfer y cylchgrawn.“

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog dros Dai, Adfywio a Threftadaeth: “Hanes Cymru ar ei orau a geir yn GLO sy’n dod â hanes pobl go iawn yn fyw. Mae hanes y diwydiant glo yng Ngogledd Cymru yn haeddu cael ei hadrodd yn well.”

Mae hanes Keith ‘Tattoo’ Evans yn ymddangos yn Glo, ac fe ychwanegodd yntau “Roedd y diwydiant glo yn yr ardal yn cael ei weld ers blynyddoedd fel rhywbeth i’w anghofio, doedd dim llawer o ddiddordeb mewn diwydiant oedd wedi siapio nifer o gymunedau gogledd Cymru. Fodd bynnag, ymddengys bod diddordeb yn hanes ac etifeddiaeth y diwydiant glo wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf.

“Fe weithiais i yn y diwydiant am sawl blwyddyn, mewn nifer o byllau yn yr ardal, ac rwy’n falch iawn bod Big Pit wedi cyhoeddi fy stori i yn y cylchgrawn hwn. Rydw i a chyn löwr arall yn ymweld ag ysgolion i siarad â’r plant am ein hamser yn y pyllau, a bydd Glo yn gymorth mawr i ni gan ei fod yn cynnwys hanesion fydd yn debyg iawn i brofiadau perthnasau’r plant.”

Caiff Glo ei gynhyrchu’n flynyddol a’i ddosbarthu’n rhad ac am ddim. Gellir ei lawrlwytho hefyd o wefan Amgueddfa Cymru yn www.amgueddfacymru.ac.uk/rhagor/glo. Mae rhifynnau blaenorol yn trin pynciau megis y Bevin Boys, Gwladoli, Pwyliaid yn gweithio yn y cymunedau glofaol, streic 1984/85 a gweithwyr glo.