Datganiadau i'r Wasg

Dathlu Pen-blwydd yn chwech oed gyda 1,500,000 o ffrindiau!

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu ei bod wedi croesawu ei 1,500,000fed ymwelydd ychydig ddyddiau cyn dathlu ei phen-blwydd yn chwech oed.

Cyrhaeddodd yr Amgueddfa y garreg filltir ar ddydd Iau 6 Hydref, ddeg diwrnod cyn ei phen-blwydd swyddogol ar ddydd Llun 17 Hydref.

Fel y gwelwn o’r ffigyrau, mae’r Amgueddfa yn denu 250,000 o ymwelwyr yn flynyddol ar gyfartaledd o bob cwr o Abertawe, Cymru, Prydain a thu hwnt ac yn parhau i wneud argraff ar y map diwylliannol.

Ers agor ei drysau yn 2005, mae wedi bod yn sbardun i amgueddfeydd modern newydd trwy ei defnydd o dechnoleg ryngweithiol, ymarferol, ac mae’n adnabyddus am ei digwyddiadau a’i harddangosfeydd dychmygus, ei chasgliadau arloesol a’i rhaglenni addysgiadol arobryn.

Mae’n cynnig cyfle i ymwelwyr â’r ddinas ddysgu am hanes pobl fu’n flaenllaw ym maes arloesi a diwydiant yng Nghymru dros y tri chan mlynedd diwethaf, hyd heddiw, ac i’r dyfodol. Mae yno dros 100 o arddangosiadau clyweledol yn cynnwys 36 sgrin ryngweithiol ddi-ail, a rhai gwrthrychau mawr iawn o Gymru fu unwaith ar flaen y gad ym maes technoleg, yn cynnwys y locomotif stêm cyntaf erioed, gwasg friciau ac un o’r unig wagenni glo sy’n dal i fodoli.

Wrth siarad am y newyddion, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris: “Dyma ganlyniad gwych arall i ni sy’n profi unwaith yn rhagor ein bod ni’n diwallu anghenion a disgwyliadau ein hymwelwyr.

“Mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau addysgiadol wedi cael effaith amlwg, gan ddenu cynulleidfaoedd newydd a denu pobl yn ôl. Mae hefyd yn galonogol i weld cymaint o bobl yn defnyddio’r safle ar gyfer digwyddiadau cymunedol, yn cynnwys myfyrwyr prifysgol sy’n defnyddio’r safle ar gyfer arddangosfeydd yn eu blwyddyn olaf.

“Mae’n rhaid llongyfarch y tîm cyfan am eu creadigrwydd, eu gwaith caled a’u penderfyniad sydd wedi sicrhau ein bod ni’n mynd o nerth i nerth.

“Mae safon profiad yr ymwelydd wedi denu pobl yn ôl dro ar ôl tro ac edrychwn ymlaen at ddenu miliynau o ymwelwyr eraill i Amgueddfa genedlaethol y Glannau dros y blynyddoedd nesaf.”

Yn ogystal â’r newyddion da yma, cofiwch bod gennym raglen lawn dros dymor y gaeaf gyda rhywbeth at ddant y teulu cyfan. Mae uchafbwyntiau yn cynnwys y gwestai arbennig, Nigel Owens y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, fydd yn adrodd straeon doniol am gemau rygbi, tripiau tramor a’i yrfa fel diddanwr ar ddydd Sul 6 Tachwedd. Ar ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr, bydd y dyn tywydd poblogaidd, Derek Brockway, yn galw draw i roi blas i ymwelwyr o dywydd cyfnewidiol Cymru ac ar ddydd Sul 11 Rhagfyr bydd Siôn Corn a’i geirw yn ymweld â’r Amgueddfa.

Nodiadau i olygyddion

  • Am ragor o fanylion, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638950.

FFEIL FFEITHIAU

  • Agorodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ei drysau yn swyddogol am y tro cyntaf ar ddydd Mercher 17 Hydref 2005.
  • Mae’r Amgueddfa yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Dinas a Sir Abertawe.
  • Dyfarnwyd grant o £11 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri tuag at gost llawn y datblygiad o £33.5m - y grant mwyaf a ddyfarnwyd yng Nghymru erioed.
  • Cynlluniwyd yr adeilad gan Wilkinson Eyre Architects gan ymgorffori warws cofrestredig Gradd II (Amgueddfa Diwydiant a Morwrol Abertawe gynt) a’i gysylltu i adeilad gwydr a llechi newydd sbon.
  • Croesawodd yr Amgueddfa ei 1,000,000fed ymwelydd ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd 2009.
  • Diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.
  • Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe