Datganiadau i'r Wasg

Aderyn neu ddeinasor

"The Phantom" Archaeopteryx yn dod i Gaerdydd

 

Ai aderyn neu ddeinosor oedd Archaeopteryx? Dim ond 10 sbesimen Archaeopteryx sydd wedi’u darganfod hyd yn hyn, a hynny mewn ardal fechan yn yr Almaen. Nawr, bydd un o’r sbesimenau gwreiddiol, a elwir yn "The Phantom" yn cael ei arddangos yn y DU am y tro cyntaf, yn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o dydd Mawrth 18 Hydref, fel y gall ymwelwyr ddysgu mwy am y ffosil cyffrous hwn.

 

Mae’r ffosil eiconig, yn aml yn cael ei ystyried fel y ‘ddolen goll’ rhwng deinosoriaid ac adar. Aderyn pluog cyntefig tua’r un maint â phioden oedd Archaeopteryx, ond mae ei sgerbwd ffosiledig yn edrych yn debycach i ddeinosor bychan. Fe’i disgrifiwyd am y tro cyntaf 150 mlynedd yn ôl gan Hermann von Meyer (1801-1869), palaeontolegydd o’r Almaen. Ers hynny, mae Archaeopteryx wedi bod yn destun dadl ynghylch tarddiad adar a’u cysylltiad â’r deinosoriaid

Cafodd y sbesimen gwreiddiol hwn, sydd i’w weld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ei ddarganfod yn Daiting, de’r Almaen, gan gasglwr preifat. Chafodd neb wybod am ei fodolaeth tan 1996 pan gafodd cast ei ryddhau. Gan na ddatgelwyd ble’n union yr oedd, rhoddwyd yr enw ‘The Phantom’ iddo. Yn 2009, cafodd ei ailddarganfod a’i brynu gan balaeontolegydd proffesiynol. Mae’n cael ei arddangos yma yn awr, am y tro cyntaf y tu allan i’r Almaen.

Sbesimen darniog ydyw, ac er nad yw mor ddeniadol â rhai eraill, mae’n bosibl ei fod ymhlith y pwysicaf. Cafodd ei ddarganfod mewn creigiau o gyfnod diweddarach na’r lleill, ac fe allai fod yn fwy datblygedig. Mae’n cynnwys penglog sydd bron yn gyfan, y ddwy balfais, asgwrn tynnu, a choes flaen chwith gyfan bron gydag un bys crafanc.

Bydd castiau a delweddau o’r naw ffosil Archaeopteryx arall yn cael eu harddangos hefyd, yn cynnwys sbesimenau ‘Llundain’ a ‘Berlin’. Gellir gweld ffosilau eraill o’r un ffurfiant daearegol sydd wedi’u cadw’n rhyfeddol yn yr arddangosfa hon, yn cynnwys gwas y neidr a pterosaur bach (ymlusgiad adeiniog).

Yn wahanol i adar modern, roedd ganddo lond ceg o ddannedd, cynffon hir esgyrnog a thair crafanc ar ei adenydd a ddefnyddiwyd i fachu ar ganghennau o bosibl. Nid oedd ganddo fysedd traed cwbl gildro sy’n helpu llawer o adar modern i glwydo. Roedd gan yr Archaeopteryx asgwrn tynnu, fodd bynnag, ac adenydd a phlu ‘hedfan’ anghymesur, fel aderyn cyffredin. Mae’n bosibl ei fod yn gallu hedfan, er nad cystal â hynny.

Dywedodd Dr Richard Bevins, Ceidwad Daeareg, Amgueddfa Cymru, "Rydym yn falch iawn ac wedi cyffroi bod sbesimen Archaeopteryx "The Phantom" yng Nghaerdydd ac yn y DU am y tro cyntaf erioed. Dyma gyfle gwych i ymwelwyr alw draw a dysgu mwy mewn arddangosfa newydd am y ffosil prin a dadleuol hwn."