Datganiadau i'r Wasg
CRAIG YR OESOEDD - IFOR PRITCHARD
Dyddiad:
2011-10-14Mae arddangosfa newydd o waith yr arlunydd diweddar Ifor Pritchard (1940 – 2010) i’w gweld yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis o heddiw ymlaen.
Mae’r arddangosfa ‘Craig yr Oesoedd’ yn cyd-fynd â lawnsiad o gyfrol o’r un enw o waith yr arlunydd gan Gwasg Carreg Gwalch. Mae’r gyfrol yn cynnwys casgliad cyfan o ddarluniau Ifor Pritchard am chwarelwyr llechi a bywyd chwarelyddol ei blentyndod yng Ngharmel, Dyffryn Nantlle yn ystod y pedwar degau. Esboniodd ei gyfaill Gari Wyn ymhellach:
“Pan fu Ifor Pritchard farw ar ddechrau gaeaf 2010, roedd wedi cyrraedd anterth ei ail-enedigaeth fel arlunydd. Dechreuodd greu ei ddarluniau olew yn ymwneud â bywyd chwarelyddol Eryri gwta chwe mlynedd cyn hynny ac yn ystod y cyfnod hwnnw defnyddiodd ei allu deheuig a’i ddychymyg dwys i gofnodi arferion a chaledi a sgiliau yr hen chwarelwyr.
“Ceisiodd ddehongli bywyd y chwarelwr ar gynfas ac roedd y bywyd hwnnw – yn ei eiriau ei hun - yn seiliedig ar ‘waith a chapel,’ a’i brif ddiddordeb ymhlith hyn oll oedd dynoliaeth a diwydiant. Dyma egluro, mae’n debyg, pam mai un o nodweddion a rhinweddau amlycaf ei waith yw’r ffordd y mae’n gallu cyfleu wynebau a mynegi emosiynau yr unigolion sy’n ymddangos yn ei luniau mor effeithiol a hynny gyda chyllell yn hytrach na brwsh. Ni ellid wrth well cyfrwng i fynegi bywyd a chaledi gerwin y chwareli llechi.
‘Maent yn adlewyrchu ei genedlgarwch a’i falchder yn ei wreiddiau.”
Roedd Ifor Pritchard yn ?r aml ei ddoniau. Daeth yn bêl-droediwr o fri – gan feithrin ei sgiliau ar
gae Clwt Y Foty ger y pentref. Enillodd dri chap amatur rhyngwladol dros Gymru fel gôl-geidwad. Dechreuodd ar ei yrfa fel athro celf yn 1964 wedi treulio cyfnod yng Ngholeg y Normal a Choleg Celf Caerdydd a threuliodd bron y cwbwl o’i yrfa fel pennaeth celf Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
hyd nes iddo ymddeol yn 1992.
Roedd trenau a rheilffyrdd o ddiddordeb neilltuol iddo oddeuty’r blynyddoedd 1985 i 1990 ac yn 1998 enillodd wobr gan Gymdeithas y Trenau Prydeinig am ei gampwaith o’r injan enwog ‘Mickey Mouse’, cyn troi ei sylw at chwareli gogledd Cymru.
Bydd y llyfr a’r arddangosfa yn cael eu lawnsio yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis am
11am ar 8fed Hydref 2011. Mae’r llyfr ar gael i brynu yn siop yr amgueddfa.
Gellir gweld yr arddangosfa hyd at 27 Tachwedd 2011. Mynediad am ddim.
---diwedd---
Gwybodaeth i’r wasg
Julie Williams: Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
( 01286 873707 julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk.
Myrddin ap Dafydd Gwasg Carreg Gwalch
(01492 642031 llyfrau@carreg-gwalch.com
Nodiadau i Olygyddion
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru:
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
- Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
- Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
- Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
- Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.
Mae’r amgueddfa ar agor drwy’r flwyddyn:
Ebrill – Hydref Yn ddyddiol 10am – 5pm
Tachwedd – Mawrth Sul – Gwener (Ar gau Sadyrnau) 10am – 4pm