Datganiadau i'r Wasg

Celf Beuys yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Joseph Beuys – un o ffigyrau mwyaf dylanwadol celf fodern a chyfoes yr ugeinfed ganrif – yn adnabyddus am y tri diwrnod y treuliodd yn Efrog Newydd, yn rhannu ystafell â choyote gwyllt yn ei ‘weithred’ I like America and America Likes Me 1974. Cafodd ffotograffau o’r digwyddiad eu harddangos yn Eisteddfod Wrecsam yn 1977. Mae cysylltiad rhwng Beuys â Chymru drwy ei ddiddordeb hirhoedlog ym mharhad yr ysbryd Celtaidd yn Ewrop. Dyma, yn ogystal â chyfraniad bwysig Beuys i ddatblygiad celf Ewropeaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yw canolbwynt arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 22 Hydref.

 

Mae’r gwaith yn yr arddangosfa hon yn rhan o ARTIST ROOMS, casgliad newydd o gelf modern a chyfoes y Tate ac Orielau Cenedlaethol yr Alban ar gyfer y genedl.

Tate a Orielau Cenedlaethol yr Alban sydd berchen ARTIST ROOMS a cafodd ei sefydlu drwy Rodd d’Offay yn 2008, gyda chefnogaeth gan Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf a Llywodraeth yr Alban a Phrydain. Mae’r daith yn bosib diolch i gefnogaeth y Gronfa Gelf, yr elusen genedlaethol sy’n codi arian i brynu gweithiau celf sy’n helpu amgueddfeydd i brynu, arddangos a rhannu celf ar hyd a lled Prydain. Crëwyd ARTIST ROOMS On Tour with the Art Fund er mwyn i’r casgliad hwn gyrraedd ac ysbrydoli cynulleidfaoedd newydd, yn benodol pobl ifanc. ar draws y wlad.

Mae’r arddangosfa wedi’i gosod mewn gofod pwrpasol yn orielau celf modern a chyfoes newydd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol. Mewn un gofod mae enghreifftiau o gerfiadau, darluniau Braunkreuz a phosteri yn recordio ‘gweithredoedd’ ac arddangosfeydd. Yn yr oriel arall mae’r cerflun Scala Napoletana a gerfiwyd ychydig fisoedd cyn marw’r artist ac sy’n cyffwrdd â’r thema o gysylltu â’r ‘ochr draw’.

Enillodd Joseph Beuys gryn enwogrwydd yn y 1960au am ei garisma a’i steil anghonfensiynol ond gwelir ôl ei ddylanwad arloesol hyd heddiw. Fel actifydd ac athro gwleidyddol a chymdeithasol, roedd swyddogaeth gymdeithasol celf a’i b?er i iachau pob un yn allweddol i’w athroniaeth. Byddai ei themâu cymhleth yn plethu gwyddoniaeth, mytholeg, hanes, meddyginiaeth ac ynni, ac mae delwedd Beuys a’i hanes yn rhan annatod o’i waith. Cynhyrchodd Beuys doreth o waith mewn cyfryngau amrywiol yn cynnwys perfformiadau, darluniau, paentiadau, cerfluniau a gosodiadau.

Dywedodd Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gyfoes Amgueddfa Cymru, "Rydyn ni’n falch iawn o gael arddangosfa Joseph Beuys yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac mae’n wych bod ein hymwelwyr yn gallu dod i weld ei waith am ddim! Mae perthynas gref rhwng yr arddangosfa, sydd wedi ei gosod mewn dwy o’r orielau celf cyfoes, â’r arddangosiadau o gasgliadau gwych Amgueddfa Cymru o gelf wedi 1950.

 

"Gall ymwelwyr â’r orielau cyfoes hefyd weld gwaith gan nifer o artistiaid o Gymru yn archwilio eu hunaniaeth ddiwylliannol ers yr 1960au, gan gynnwys Paul Davies – sydd wedi cael ei ddisgrifio fel "ffigwr dylanwadol Beuysiaidd ar gyfer celf wleidyddol yng Nghymru a gynhaliodd brotest wleidyddol ei hun yn Eisteddfod Wrecsam 1977."

 

Pan oedd yr Athro André Stitt o Ysgol Gelf a Dylunio UWIC yn ei arddegau, gwelodd Joseph Beuys yn rhyngweithio gydag aelodau o’r cyhoedd ar strydoedd Belfast. Cafodd y profiad hwn ddylanwad mawr ar artist.

 

Fe ddywedodd , "Mae’r perfformiadau gorau yn dueddol o ddigwydd pan y caiff testun neu luniau eu cymryd allan o gyd-destun drwy ddefnyddio dulliau annisgwyl neu anghyfarwydd. Mae nhw’n herio rhagdybiaethau y gwyliwr.

 

"Dyma sut oedd Beuys i fi. Roedd yn dwyllwr, siaman, cwac, diddanwr hy, meddyliwr dwys, cynghorwr lled ysbrydol a chwedleuwr. Dyna’r hyn a’m denodd yn wreiddiol pan welais ef am y tro cyntaf ym marchnad Smithfield ym Melfast, a minnau’n dal yn fy arddegau. Fe ddeallais i e. Yr hiwmor a’r difrifoldeb yn gwrthdaro wrth i Beuys arwyddo bananas tra bod yr hen fenyw oedd yn ngofal y stondin ffrwythau yn ei hel ymaith! Byddai Beuys yn arwyddo unrhyw beth. Allech chi ddim peidio cael eich ysbrydoli gan Almaenwr gwallgof mewn cot ffwr fawr yn arwyddo bananas yng nghanol terfysgoedd Belfast y cyfnod. Pethau felly sy’n newid eich bywyd."